BGT: Côr Glanaethwy yn y rownd derfynol

  • Cyhoeddwyd
Cor Glanaethwy
Disgrifiad o’r llun,

Côr Glanaethwy

Mae Côr Glanaethwy wedi cyrraedd rownd derfynol Britain's Got Talent.

Y côr gyda 162 o aelodau wnaeth ennill y bleidlais gyhoeddus yn dilyn rownd gynderfynol nos Lun.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal y penwythnos nesaf.

Yn ymuno â nhw yn y rownd derfynol fydd Entity Allstars, wnaeth ennill pleidlais y beirniaid.

Ar ôl clywed canlyniad y bleidlais dywedodd Cefin Roberts un o gyd-gyfarwyddwyr y côr: "Mae'n deimlad ffantastig. Mae'n beth gwych i fod yma, ond mae cyrraedd y rownd derfynol, mae hynny mor gyffrous."

Cafodd y perfformiad ganmoliaeth unfrydol gan y beirniaid.

'Llawn balchder'

Mewn erthygl ddiweddar i BBC Cymru Fyw, fe siaradodd Cefin Roberts am rinweddau cystadlu - ac mae'n amlwg fod yr holl gystadlu wedi talu ar ei ganfed i'r côr.

Dywedodd Simon Cowell: "Roedd y perfformiad yn un pwerus a llawn emosiwn, roedd trefniant y lleisiau yn anhygoel, ac fe ddylai Cymru heno fod yn llawn balchder."

Roedd yna glod hefyd gan David Walliams: "Roedd yna ddagrau yn fy llygaid - doedd gennyf ddim syniad am be oedd y gân, ond roedd yr holl berfformiad mor deimladwy."

Ar ôl cystadlu ar y rhaglen bu'n rhaid i rai o aelodau ieuengaf y côr adael yn syth er mwyn teithio i Eisteddfod yr Urdd, Caerffili.

Bu'n rhaid i tuag wyth o ddisgyblion Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, adael er mwyn cystadlu yn yr Urdd fore Mawrth.

Fe wnaeth rai ohonyn nhw gyrraedd eu gwesty yng Nghaerffili ychydig cyn 02:00 ac roedd yn rhaid deffro am 05.45 er mwyn cyrraedd y maes erbyn 07:00.

Cymry eraill yn cystadlu

Mae 'na Gymraes o'r de hefyd wedi cyrraedd un o'r rowndiau cyn-derfynol eraill fydd yn cael eu cynnal weddill yr wythnos.

Fe blesiodd Maia Gough o Sgiwen y beirniaid pan ganodd y ferch ifanc gân gan Whitney Houston yn y rownd gyntaf.

Roedd 'na ddathlu ym Mhontarddulais hefyd, wrth i'r grŵp Honeybuns ymuno â'r Cymry yn y rownd gynderfynol.

O Bort Talbot y daw Groove Thing - criw o 12 o ddawnswyr fydd hefyd yn cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Llawenydd wrth i Gor Glanaethwy glywed canlyniad y bleidlais

Disgrifiad o’r llun,

Maia Gough