Her yr arddegau i lyfrau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
bbc

Wrth i'r rhan fwyaf o blant droi cefn ar lyfrau Cymraeg wrth gyrraedd eu harddegau rhaid i ni gyd wneud mwy i'w hannog i barhau i ddarllen yn Gymraeg meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaethau Defnyddwyr Llyfrgelloedd Gwynedd:

'Troi at y Saesneg'

Ym mis Awst y llynedd cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru adroddiad a roddodd drosolwg o'r sefyllfa o ran cyhoeddi a darllen llyfrau Cymraeg i blant.

Un canfyddiad, sy'n taro tant gyda sawl un dw i'n tybio, yw'r frawddeg hon:

"Erbyn i blant gyrraedd 12 oed, mae'r mwyafrif wedi newid iaith a dim ond llyfrau Saesneg y byddant yn eu benthyca, gydag ambell eithriad poblogaidd."

Er mai Cymraeg yw iaith dros 45% o fenthyciadau llyfrau plant mewn sawl llyfrgell yng Ngwynedd, credaf ei bod yn deg dweud bod y mwyafrif ohonynt yn llyfrau ar gyfer y plant dan wyth oed sy'n darllen yn bennaf trwy'r Gymraeg.

Wrth i blant dyfu'n hŷn, a dod yn fwy rhugl yn Saesneg, maent yn troi fwyfwy at lyfrau Saesneg, ac erbyn cyrraedd yr arddegau, ychydig iawn o lyfrau Cymraeg a fenthycir ganddynt.

'Llai o ddewis'

Y mae sawl rheswm i'w gyfrif am hynny wrth gwrs. Mae llai o ddewis ac amrywiaeth llyfrau ar gael yn Gymraeg, yn enwedig o ran nofelau antur, ffantasi a llyfrau ffeithiol.

Ni ellir gwadu ychwaith fod dylanwad hollbresennol y Saesneg yn drwm ar ein bywydau bob dydd, trwy ffilm, rhaglenni teledu, y we a'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae llyfrau Saesneg hefyd yn cael eu marchnata'n drwm ac mae plant yn hoffi darllen y llyfrau y mae eu ffrindiau yn sôn amdanynt.

Y llyfrau plant mwyaf poblogaidd yn Llyfrgelloedd Gwynedd ar hyn o bryd yw nofelau Jeff Kinney (cyfres Wimpy Kid) a Liz Pichon (cyfres Tom Gates); ac nid yw'n syndod chwaith mai dyma'r addasiadau Cymraeg a fenthycwyd amlaf yn y chwe mis diwethaf.

Dewisiadau 'saff'

Cyn i ni ddigalonni, rhaid oedi i roi hyn yn ei gyd-destun. Pwll cyfyng o awduron Saesneg sy'n cael eu darllen fwyaf gan blant heddiw, ac yn ôl Cymdeithas yr Awduron, mae prif gyhoeddwyr Lloegr yn canolbwyntio'n gynyddol ar ddewisiadau saff a brandiau 'seleb', weithiau ar draul awduron sy'n gwerthu'n arafach ond yn fwy selog.

Rwyf wedi clywed y gŵyn honno'n gynyddol gan awduron plant o Loegr sy'n dweud ei bod yn mynd yn anoddach iddynt gyhoeddi eu llyfrau o gwbl.

Mae'r farchnad yn hynod gystadleuol a'r awduron poblogaidd sy'n cael y gefnogaeth fwyaf. Pwy all enwi awduron Saesneg i blant y tu allan i'r siartau poblogaidd tybed?

A rhaid cofio hefyd mai awduron Americanaidd yw Jeff Kinney, John Green a Suzanne Collins, sydd wedi bod ar frig y siartiau'n ddiweddar.

'Dathlu'

Ond rhowch gyfle i blant gael mynediad at lyfrau Cymraeg a gall fod yn stori wahanol. Mae Llyfrgell y Bala yn rhannu gofod gydag Ysgol Uwchradd Y Berwyn.

O edrych ar y llyfrau plant a fenthycir amlaf yno, gwelir nofelau gwreiddiol Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Gwenno Hughes a Leusa Fflur Llewelyn yn ymddangos yn yr ugain uchaf.

A hithau'n ganmlwyddiant geni T. Llew Jones eleni, dylem ddathlu'r ffaith fod gennym gyfoeth o lyfrau gwych i blant ar gael yn y Gymraeg heddiw, yn glasuron a nofelau cyfoes rhagorol a difyr.

Nid bod angen atal plant rhag darllen llyfrau Saesneg, ond rhaid i ni i gyd - yn llyfrgellwyr, perchnogion siopau llyfrau ac athrawon - ddarganfod ffyrdd o hybu llyfrau gwreiddiol Cymraeg yn llawer mwy egnïol a hyderus nag ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Sylwadau'r Cyngor Llyfrau:

Meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: ''Er y cynnydd yn yr amrywiaeth o lyfrau Cymraeg i blant a gyhoeddir y dyddiau hyn rydym i gyd yn ymwybodol mai'r her fwyaf yw sicrhau bod plant yn parhau i ddarllen wrth iddynt gyrraedd eu harddegau - ac rydym ninnau yn y Cyngor Llyfrau yn ceisio ymateb i'r dylanwadau sy'n effeithio arnynt.

"Dyna un o'r rhesymau ein bod yn ceisio balans rhwng llyfrau gwreiddiol ac addasiadau gan apelio at garfan eang o ddarllenwyr.

"Ac er ein bod yn gweithredu mewn marchnad hynod o gystadleuol mae cyhoeddwyr ac awduron llyfrau Cymraeg yn datblygu dulliau hyrwyddo newydd, sy'n cynnwys rhwydweithiau cymdeithasol, i gyrraedd cynulleidfaoedd".

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol