Teulu yn galw am wella diogelwch parciau hamdden

  • Cyhoeddwyd
Hayley WilliamsFfynhonnell y llun, Williams family photo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hayley Williams wedi ymweld ag Oakwood sawl gwaith cyn y ddamwain

Ar 15 Ebrill 2004, fe ffarweliodd Beverley Williams a'i merch 16 oed Hayley cyn iddi adael am barc hamdden yng ngorllewin Cymru. Dyma'r tro olaf y gwelodd y teulu Hayley yn fyw. Oriau'n ddiweddarach roedd hi wedi disgyn 120 troedfedd o gerbyd ar reid 'rollercoaster'.

Ers hynny mae'r teulu wedi ceisio dod i delerau gyda'i marwolaeth, gan ddioddef blynyddoedd yn ymladd am gyfiawnder mewn achosion llys. 11 mlynedd yn ddiweddarach fe ddaeth atgofion erchyll y diwrnod hwnnw'n ôl yn fyw iddyn nhw wrth glywed bod 16 o bobl wedi eu hanafu ar reid yn Alton Towers. Nawr mae'r teulu yn galw am gryfhau rheolau mewn parciau hamdden yn y gobaith y gall damweiniau o'r fath gael eu hosgoi yn y dyfodol.

Dywedodd Beverley Williams, sydd yn byw ym Mhont-y-Pŵl:

"Hanner awr wedi tri oedd hi. Fe ddaethon nhw i guro ar fy nrws a dweud fod damwain wedi bod ac roedd angen i mi fynd i Hwlffordd cyn gynted â phosib. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd", meddai.

"Fe wnes i gerdded drwy'r brif fynedfa (i'r ysbyty) ac fe redodd Hannah (eu merch arall) ata i a dweud 'mae' hi'n OK, paid â phoeni' a dyma fi'n meddwl 'diolch i Dduw am hynny'.

"Yna fe ddaeth meddyg i mewn a gofyn i mi eistedd i lawr ac fe ddwedes i wrtho fo 'os ydych chi am ddweud yr hyn dwi'n ei gredu yr ydych am ei ddweud, plis peidiwch', a tydw i ddim yn cofio llawer ar ôl hynny.

Ffynhonnell y llun, Hywel Williams/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Reid Hydro, ym Mharc Oakwood

Roedd Hayley wedi bod ar ei gwyliau gyda'i mam a'i chwaer Hannah, 13, pan ddigwyddodd y ddamwain yn ystod trip gyda ffrindiau i barc hamdden Oakwood ger Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro.

Ni aeth Mrs Williams gyda nhw gan nad oedd hi'n teimlo'n dda, ond fe aeth Hayley â hi i'r gwely gan ddweud wrthi am aros yno tan yr oedd hi'n ôl.

Oriau'n ddiweddarach fe gafodd y ferch ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Llwynhelyg ar ôl syrthio 120 troedfedd o reid Hydro yn y parc.

'Credu ei bod yn ddiogel'

Clywodd cwest i'w marwolaeth yn 2006 fod bar diogelwch oedd i fod i atal teithwyr rhag symud heb gael ei ostwng cyn i'r reid gychwyn.

Dywedodd crwner Sir Benfro, Michael Howells, nad oedd tystiolaeth i ddangos bod unrhyw un yn gyfrifol am esgeulustod difrifol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alan a Beverley Williams yn galw am reolau gwell mewn parciau hamdden

Roedd Hayley wedi teithio ar yr Hydro ar sawl achlysur yn y gorffenol, ac fe ddywedodd Mrs Williams y byddai ei merch yn "credu iddi fod yn ddiogel ar y reid".

"Rydych chi just yn credu fod y reidiau hyn yn gwbl ddiogel, roedd y reid dim ond yn 18 mis oed, ac fe gostiodd £1.8m i'w gosod", meddai.

"Tydan ni ddim yn siarad am ffeiriau cyffredin - a tydw i ddim yn barnu ffeiriau - ond mae'r reidiau hyn yn llawer mwy grymus ac maen nhw werth miliynau o bunnoedd, ac rydych chi'n anfon eich plant i fynd arnyn nhw.

"Rydych chi'n gwario llawer o arian i fynd i'r parciau hyn ac rydych am wybod eu bod yn cael eu cynnal."

Ychwanegodd: "Doeddwn i byth yn meddwl y byddai unrhyw beth yn digwydd. Byth mewn miliwn o flynyddoedd oeddwn i'n meddwl na fyddwn yn gweld fy mhlentyn fyth eto.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu Wiliams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hayley yn gantores ac wedi gobeithio dilyn gyrfa yn y maes

Cafodd Hydro ei chau am flwyddyn, ac fe osodwyd rhwystrau diogelwch newydd pan gafodd ei ail-agor.

Yn 2006 fe ddywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai neb yn wynebu achos cyfreithiol yn dilyn marwolaeth Hayley.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gafodd cwmni Oakwood Leisure, oedd yn rhedeg yr atyniad pan fu Hayley farw, ddirwy o £250,000 ar ôl cyfaddef nad oedd staff wedi sicrhau fod teithwyr wedi eu diogelu ar y reid.

11 mlynedd yn ddiweddarach, mae Alan Williams, tad Hayley, a'i wraig Beverley yn dweud eu bod yn dal i bryderu am ddiogelwch mewn parciau hamdden, ac roedd y ddau wedi eu dychryn yn ddiweddar pan fu damwain ddifrifol yn Alton Towers.

Dywedodd Mrs Williams: "Fe wnes i droi'r newyddion ymlaen ac roedd yna. Roedd fel cyllell oedd yn cael ei gwasgu i'r galon a'i throi ac rydych yn teimlo fel eich bod yn mynd drwy'r holl beth unwaith eto."

Ffynhonnell y llun, WMAS
Disgrifiad o’r llun,

Damwain ddiweddar yn Alton Towers pan gafodd 16 o bobl eu hanafu

Dywedodd ei gŵr fod y teulu nawr am wedi parciau hamdden yn wynebu rheolau diogelwch mwy caeth, yn cynnwys asesiadau risg cyson ac archwiliadau gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

"Rydym yn gwybod nad oes modd eu diddymu, mae'n atyniad i bobl...rydym am eu gwneud mor ddiogel ag sydd yn bosib."

Mae parc hamdden Oakwood bellach â pherchnogion gwahanol. Dywedodd llefarydd ar ran y parc wrth y BBC, er nad oedd neb oedd yn gweithio yno adeg marwolaeth Hayley yn dal i weithio yno nawr: "Does dim diwrnod yn mynd heibio pan nad ydym yn cofio'r digwyddiadau trasig hynny 11 mlynedd yn ôl".

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: "Y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yw rheoleiddiwr reidiau parciau hamdden ac offer o'r fath sydd yn cael eu defnyddio mewn ffeiriau a pharciau hamdden yn y DU.

"Mae gan y Gweithgor nifer o archwilwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant drwy'r DU i fod yn rhan o Dîm Archwilio Cenedlaethol Ffeiriau.

"Mewn nifer fach o achosion, ble mae risg bychan ar reidiau mewn ffeiriau sydd dan ofal awdurdodau lleol ar gyfer pwrpas rheoleiddio e.e. parciau gwyddoniaeth a chanolfannau siopa, mae cytundebau lleol yn bodoli ble mae'r awdurdod lleol perthnasol yn cymryd cyfrifoldeb am reidiau ffeiriau yn y lleoliadau hyn."