TikTok, AI ac addysg: Sut mae pobl ifanc yn ymateb i isetholiad Caerffili?
Sut mae pobl ifanc yn ymateb i isetholiad Caerffili?
- Cyhoeddwyd
Un peth ddaeth yn amlwg wrth i mi sgwrsio â myfyrwyr Coleg y Cymoedd yw eu bod yn falch o ddod o Gaerffili.
"Mae'n lle gwirioneddol brydferth ac mae pawb mor gyfeillgar… mae'n lle braf i ddod ohono," meddai un fyfyrwraig.
Roedden nhw'n sôn am hanes y castell, prydferthwch y dyffrynnoedd sy'n ei amgylchynu, ond yn bennaf oll, y teimlad o gymuned sy'n deillio o fyw mewn llefydd sydd â chysylltiad dwfn â hanes a diwylliant Cymru.
Rwy'n deall y teimlad yma yn iawn, gan fy mod i wedi fy magu ac wedi byw yng Nghaerffili trwy fy mywyd.
Fel person o'r ardal, mae'n hawdd teimlo'r tensiwn – mae isetholiad ar y gorwel, a gallai hynny ddod â newid sy'n cael effaith nid yn unig ar y gymuned, ond ar y wlad gyfan.
Es i yn ôl i Goleg y Cymoedd yn Nantgarw i drafod â phobl ifanc am sut maen nhw'n ymateb i'r isetholiad.

Mae Seren yn 16 oed ac yn astudio gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Cymoedd
Bydd pobl 16 ac 17 oed yn medru pleidleisio yn isetholiad Caerffili, sy'n digwydd ddydd Iau.
Dyma'r eildro i bobl iau na 18 oed gael pleidlais – y tro cyntaf oedd yn etholiad Senedd Cymru yn 2021.
I'r bobl ifanc y bues i'n siarad â nhw, mae cael y cyfle i ddylanwadu ar eu hardal yn bwysig iawn.
"Rwy'n pleidleisio am y tro cyntaf," meddai Sam, 17.
"Mae gen i gyfle nawr i gael fy llais wedi'i glywed, ac i allu newid pethau am y dyfodol rydw i eisiau ei weld."
Ychwanegodd Lily, sydd hefyd yn 17 oed: "Dwi'n meddwl y dylen ni bleidleisio oherwydd bydd yn effeithio arnon ni fwyaf.
"Ni yw'r rhai sy'n gorfod byw gyda'r canlyniadau."

Yn ôl Sam, dydy o ddim yn teimlo fel ei fod yn gwybod llawer am wleidyddiaeth
Er gwaethaf y brwdfrydedd yma, dywedodd y bobl ifanc eu bod yn poeni nad ydyn nhw a'u cyfoedion yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth.
"Dydw i erioed wedi cael gwers ar wleidyddiaeth, felly dyna pam rydw i'n teimlo fel nad ydw i wedi cael digon o addysg yn y pwnc," meddai Sam.
"Rwy'n credu os bydden nhw'n gwthio hynny ychydig yn fwy [mewn ysgolion] byddai'n helpu, yn enwedig gyda'r ffaith bod modd pleidleisio yn 16 oed."
Ychwanegodd Seren, 16: "Rwy'n credu'n gryf nad yw addysg ar wleidyddiaeth yn agos at fod yn ddigon da.
"Dydy pobl ddim yn cael y wybodaeth i bleidleisio felly mae 'na lawer o bobl ifanc yn pleidleisio ar sail cyfryngau gwleidyddol radical ac nid yw hynny'n iawn cyn yr etholiad."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod cefnogi dysgwyr i "arfer eu hawliau democrataidd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm".
"Yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026 a'r etholiadau llywodraeth leol yn 2027, byddwn yn parhau i ariannu sefydliadau i ddarparu prosiectau i gynyddu'r addysg ddemocrataidd sydd ar gael mewn ysgolion a gwella ansawdd yr addysg honno."

Hoffai Lily fod yn wleidydd pan mae hi'n hŷn
Gyda rhai'n cwyno am ddiffyg addysg yn yr ysgol, dywedodd y bobl ifanc fod llawer ohonynt yn derbyn gwybodaeth am yr isetholiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Pan mae pleidiau gwleidyddol yn gwneud trends ar TikTok, mae'n amlwg eu bod yn ceisio cyrraedd pleidleiswyr ifanc... ond mewn ffyrdd rhyfedd," meddai Seren.
"Dim ond oherwydd ein bod ni'n iau, dydy hynny ddim yn ein gwneud ni'n llai difrifol.
"Ar ddiwedd y dydd, mae pleidlais pawb yn gyfartal."
Ychwanegodd Sam: "Mae'n rhaid i chi fynd i mewn o ddifrif a chwilio am yr hyn sy'n gywir ai peidio y dyddiau hyn – yn enwedig gyda'r cynnydd mewn AI.
"Mae'n anodd iawn gwybod beth sy'n wir a beth sydd ddim."
Be' sy'n bwysig i bobl ifanc?
Yn ôl Seren, mae Caerffili yn llawer mwy na'r castell yn unig.
"Mae cymuned yn rhywbeth really bwysig yn yr ardal, yn enwedig y trefi a phentrefi bach - dwi'n teimlo eu bod nhw'n cael eu hesgeuluso," meddai.
"Rydw i wedi byw yma drwy gydol fy mywyd a dydy pethau ddim yn gwella.
"Mae gennym ni lawer o hanes, pentrefi glofaol ydym ni, roedd gennym ni'r pwll glo, rydym ni wedi cael trychinebau ac mae gennym ni gofebau, ond rwy'n teimlo nad oes ffocws go iawn ar drwsio unrhyw beth sy'n digwydd yn y trefi."
- Cyhoeddwyd9 Hydref
- Cyhoeddwyd3 Hydref
- Cyhoeddwyd13 Hydref
Fel siaradwr Cymraeg ail iaith, i Sam mae gwarchod a dathlu diwylliant Cymraeg yn bwysig.
"Un peth hoffwn i weld yw mwy o'r iaith yn cael ei dathlu.
"Ry'n ni'n cael rhai pethau, ond yn gyffredinol does dim llawer, a ti angen mynd allan o'r ffordd i ffeindio lleoedd ble mae pobl yn siarad llawer o Gymraeg."
Hoffai Lily weld gwasanaethau'r GIG cael eu parchu a'u gwarchod yn well.
"Cafodd y GIG ei greu yng Nghymru ond dydyn ni ddim yn ymddwyn fel bod ni'n falch ohono.
"Dydy o ddim yn teimlo fel ei fod ar frig rhestr flaenoriaethau unrhyw un."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.