Ydy myfyrwyr heddiw yn or-ddibynnol ar ddeallusrwydd artiffisial?

Meagan, Poppy, Ifan, Mea
Disgrifiad o’r llun,

Er bod rhai myfyrwyr yn teimlo bod AI yn "arf ychwanegol", roedd eraill yng Nghaerdydd yn ei osgoi am resymau amgylcheddol

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial (AI) chwarae rhan amlycach yn ein bywydau o ddydd i ddydd, ydy myfyrwyr yn or-ddibynnol ar ei ddefnyddio er mwyn cwblhau eu gwaith prifysgol?

Mae adroddiad diweddar yn dangos bod dwy ran o dair o fyfyrwyr yn defnyddio AI wrth astudio ac wrth gyflawni eu gwaith.

Yn ôl un darlithydd, mae deallusrwydd artiffisial yn "her" i'r sector addysg uwch ac mae'n dod yn "anoddach" i geisio canfod defnydd ohono mewn asesiadau.

Ymateb cymysg oedd gan rai o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ynghylch eu defnydd ohono, gyda rhai yn dweud eu bod yn ei ddefnyddio'n gyson, ac eraill yn dewis peidio er lles yr amgylchedd.

Mae prifysgolion bellach wedi llunio polisïau sy'n amlinellu hawl myfyrwyr i'w ddefnyddio neu beidio wrth gyflwyno'u gwaith.

Meagan (chwith) a Poppy (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meagan (chwith) a Poppy (dde) yn dewis peidio defnyddio deallusrwydd artiffisial wrth gwblhau eu gwaith

Un fyfyrwraig sy'n dewis peidio defnyddio deallusrwydd artiffisial wrth gwblhau ei gwaith prifysgol yw Meagan Griffiths, sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd: "Dwi'n trio peidio defnyddio fe, dwi'n gwybod bod yr effeithiau ar yr amgylchedd yn awful.

"Ma' pobl 'di cael graddau heb AI, dwi'n meddwl y gallwn i gael graddau heb AI hefyd."

Rhesymau amgylcheddol sydd y tu ôl i benderfyniad Poppy Pearson, sydd hefyd yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, i beidio ei ddefnyddio hefyd.

"Dwi just yn teimlo mor euog o'i effaith ar yr amgylchedd i ddweud y gwir, dwi'n llysieuwr, dwi'n trio cael carbon footprint bach."

Ond esboniodd fod y sefyllfa yn medru bod yn "rhwystredig" pan fo rhai myfyrwyr yn defnyddio AI ac yn cael marciau uchel, "felly mae'n teimlo'n annheg pan ti'n gwneud gymaint o ymdrech ac yn cael rhywbeth fel 50%," ychwanegodd.

Sut mae AI yn effeithio ar yr amgylchedd?

Yn ôl erthygl gan gynllun amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, mae'r canolfannau data sy'n gartref i systemau AI yn cynhyrchu gwastraff electronig.

Mae'n nodi bod y canolfannau'n defnyddio llawer o ddŵr a'u bod yn ddibynnol ar fwynau hanfodol ac elfennau prin hefyd, sy'n aml yn cael eu cloddio mewn ffyrdd anghynaladwy.

Mae'r canolfannau hefyd yn defnyddio symiau enfawr o drydan, gan ysgogi allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at gynhesu'r blaned.

Ifan Meredith
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ifan Meredith fod myfyrwyr yn "or-ddibynnol" ar ddeallusrwydd artiffisial

Yn ôl Ifan Meredith, myfyriwr ail flwyddyn, mae defnyddio AI bellach yn "anochel" i fyfyrwyr.

"Erbyn hyn mae'n rhan naturiol o fywyd myfyriwr, dim i ddweud 'mod i'n defnyddio fe i sgwennu fy nhraethodau i, ond mae'n arf ychwanegol i fyfyrwyr."

Dywedodd ei fod yn gweld AI yn ddefnyddiol wrth symleiddio darnau o lyfrau academaidd nad yw'n deall, ond mae'n dweud bod "rhai myfyrwyr yn ei weld fel rhywbeth arallfydol" ac yn meddwl bod angen bod yn wyliadwrus.

Roedd o'r farn bod "pobl ifanc, yn or-ddibynnol ar AI erbyn heddiw".

Er bod nifer o raglenni AI yn medru cyflwyno gwybodaeth mewn sawl iaith, dywedodd Ifan mai "sylfaenol" yw safon y Gymraeg arno a'i fod "yn rhywbeth ychwanegol sy'n rhoi anfantais i bobl sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg".

Sian Morgan Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Morgan Lloyd yn uwch ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd

Dywedodd Sian Morgan Lloyd, sy'n darlithio yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, ei bod hi'n "bwysig i beidio bod yn orbryderus amdano fe".

"Bydden i'n dweud bod AI yn her ond nid yn broblem o anghenraid oherwydd mae e yma, mae e'n datblygu, mae angen i ni gadw lan gyda'r newidiadau."

Dywedodd fod darlithwyr "yn gallu adnabod AI o fewn gwaith, ond mae'n mynd yn fwy anodd".

"Dwi'n credu mae'n broblem i'r sector gyfan. Ma' addysg uwch angen edrych ar y math o asesiadau ni'n gosod a'r sgiliau ry' ni'n gofyn amdanyn nhw."

Wrth edrych ymlaen at ddyfodol lle gallai deallusrwydd artiffisial fod yn fwy dylanwadol, dywedodd: "Wrth i'r systemau ddatblygu, mae'n mynd i fod yn her."

Mea vello
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mea o'r farn bod cymaint yn defnyddio AI am ei fod yn "safio amser"

Ond i Mea Verallo, myfyriwr ail flwyddyn, mae AI yn gallu arbed llawer o amser wrth astudio.

Dywedodd: "Rhywbeth fi'n meddwl bod e'n weddol hawdd i roi e mewn i AI a gofyn iddo symleiddio hwn fel mod i'n gallu deall e.

"Fi ddim yn iwso fe gair am air ond mae e really yn safio lot o amser wrth allu rhoi e mewn i'r search bar."

Ond roedd o'r farn "bo' ni gyd yn or-ddibynnol ar ddefnyddio fe i wneud bywyd yn haws".

"Fi'n meddwl bod elfen fawr o ddiogi ynghlwm ag e. Mae lot yn haws gallu hwpo rhywbeth mewn i AI yn lle actually defnyddio'r sgiliau sydd gyda ni i gyd fwy neu lai.

"Fi'n meddwl mae'n ffordd o safio amser, pobl ddim moyn neud y gwaith er bod pobl wedi dewis dod i brifysgol i gael gradd," meddai.