Y Niwl ar Fryniau Dyfed

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dyn a wyr sut mae academyddion yn gallu gweithio'r pethau yma mas ond Gwent, medden nhw, yw'r enw tiriogaethol hynaf yng Nghymru. Mae'n tarfu, yn ôl y rheiny ddylai wybod o Venta Silwrium, Caerwent ei dyddiau ni, ac yn ôl y traddodiad sefydlodd Caradoc Freichfras ei frenhiniaeth Wentaidd rhywbryd yn y bumed ganrif.

Gwir ai peidio, gallwn fod yn gwbl sicr bod enw Monmouthshire y Normaniaid yn newydd ddyfodiad o'i gymharu â Gwent y Brythoniaid. Mae'n werth cofio hynny wrth i bobl wylofain ynghylch colli enwau 'hanesyddol' o ganlyniad i adrefnu llywodraeth leol.

Nid ar chwarae bach y mae dewis enw cyngor - enw sydd, yn anorfod bron, yn esblygu i fod yn enw ar ardal. Gall dewis gwael neu hyd yn oed camgymeriad gael effeithiau pellgyrhaeddol.

Yn ôl y saithdegau, er enghraifft, dewisodd cynghorwyr Llŷn ac Eifionydd 'Deufor' fel enw ar eu cyngor newydd. Camddealltwriaeth rhwng y cynghorwyr a'r Swyddfa Gymreig wnaeth esgor ar yr enw 'Dwyfor' gan droi enw afon yn enw ar ardal gyfan.

O leiaf roedd enwau siroedd 1973 yn gweithio fel enwau daearyddol. Roedd hi'n hawdd i newyddiadurwyr esbonio lle'r oedd lle trwy gyfeirio at Cwmsgwt 'ym Morgannwg Ganol neu 'yng Ngwynedd' neu le bynnag.

Mae rhai o enwau 1996 ar y llaw arall yn hunllefus. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i ddweud bod y Coed Duon 'yng Nghaerffili' neu fod Porthcawl 'ym Mhen-y-bont' ac oherwydd hynny mae sawl pen wedi ei grafu mewn sawl ystafell newyddion yn ystod y degawdau diwethaf.

Chwi bobl y Gogledd, rwy'n gwybod cymaint y'ch chi'n casau'r 'in North Wales' echrydus yna ar fwletinau newyddion. Gallwch feio adrefnu 1996 am y peth!

Fel mae'n digwydd mae siroedd 1973 o hyd yn bodoli'n gyfreithiol fel unedau llywodraethol a daearyddol ond gan fod y Cynulliad yn un o'i weithredoedd mwyaf obsciwar wedi adrefnu eu ffiniau yn 2003 ac eto yn 2009 mae eu defnydd yn gyfyngedig a dweud y lleiaf!

Beth bynnag yw'r ymateb i gynlluniau Leighton Andrews yn y Siambrau Cyngor felly mae 'na ambell i wen i'r gweld ar wynebau ein his-olygyddion heddiw!