Nai Vai ac Oxi

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Yn ôl ar ddechrau'r saithdegau roeddwn i ar drip ysgol i wlad Groeg ac roedd posteri ym mhob man yn gwaeddu 'Nai' a 'Vai' ar y cyhoedd. Roedd refferendwm i ddiddymu'r frenhiniaeth yn cael ei gynnal ar y pryd ac roeddwn i'n cymryd mai 'Ie' a 'Na' oedd ystyr y poster.

Credais hynny tan i rywun esbonio mai'r un llythyren yw N a V yn y wyddor Roegaidd ac mai 'Ie' oedd neges y posteri i gyd. Roedd ambell i 'Oxi' i weld fan hyn, fan draw ond roedd y rheiny oedd wedi paentio'r 'Na' ar ambell i wal mewn peryg o fynd i'r jail o gael eu dal.

Llywodraeth filwrol oedd yng ngwlad Groeg ar y pryd ac yn y dyddiau hynny pethau digon prin oedd llywodraethau democrataidd yn Ewrop. Gellir dadlau ynghylch yr union nifer ond o'r deunaw gwlad oedd ac arfordiroedd ar Fôr y Canoldir dim ond pedair sef Ffrainc, yr Eidal, Israel a Malta oedd â chyfundrefnau a fyddai'n cael eu hystyried yn ddemocrataidd heddiw.

Yn 1970 roedd 'na fwy o wledydd totalitaraidd ar gyfandir Ewrop nac oedd yna drothwy'r ail ryfel byd. Heddiw un, Belarus, sydd ar ôl.

Dyna yw llwyddiant mawr y prosiect Ewropeaidd a'i strwythurau - nid dim ond yr Undeb Ewropeaidd, ond yr EEA, Cyngor Ewrop, NATO a'r gweddill hefyd.

Mae hon yn foment beryglus i'r prosiect hwnnw. Mae rhyfel mewn pob dim ond enw yn mudlosgi yn Iwcrain a Groeg mewn peryg o syrthio allan o'r Euro yn sgil methiant gwleidyddion i gyrraedd cytundeb. I ganol hyn oll mae David Cameron wedi camu mewn gan gychwyn proses allai arwain at ysgariad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Nid fy lle i yw dweud pwy sy'n gau a phwy sy'n gywir yn yr holl fusnes yma ond mae 'na beryg rwy'n meddwl ein bod ni'n tanbrisio'r peryglon.

Un o'r llyfrau hanes mwyaf trawiadol a dylanwadol i'r gyhoeddi yn y blynyddoedd diwethaf yw Sleepwalkers gan Christopher Clark sy'n croniclo'r digwyddiadau wnaeth arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf. Seiliwyd y gyfres ddrama "37 Days" ar yr y llyfr hwnnw.

Yr hyn sy'n drawiadol yn yr hanes yw bod bron neb o arweinwyr gwleidyddol Ewrop yn dymuno mynd i ryfel ac roedd 'na ewyllys da ar bob ochor wrth iddyn nhw geisio datrys problem wleidyddol digon tila mewn gwlad yr oedd bron neb yn gyfarwydd â hi.

Fe drodd y broblem yn argyfwng ac fe esgorodd hwnnw ar y rhyfel fwyaf gwaedlyd yn hanes ein cyfandir.

Dydw i ddim am gymharu argyfwng ariannol Groeg a llofruddio'r Archddug Fferdinand yn ormodol ond mae 'na ryw deimlad gen i bod gwleidyddion ein hoes ni yn colli rheolaeth ar y sefyllfa a does wybod lle fydd hyn oll yn arwain.

Y cyfan ddywedaf yw hyn. Rwy'n gobeithio bod ein gwladweinwyr yn gyfarwydd â llyfr Clark.