Paratoi am Glymblaid?

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae'n gynnar ar y naw i ddechrau darogan ynghylch etholiad Cynulliad 2016 ond medraf ddweud un peth wrthoch chi hyd sicrwydd sef y cwestiwn allweddol fydd yn cael ei ofyn drannoeth y canlyniad. Dyma fe.

"O gymryd nad oes gan Lafur fwyafrif yn ei rhiwnedd ei hun - ydy cyfanswm seddi'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddeg ar hugain neu fwy?"

Os ydy'r ateb i'r cwestiwn yna'n gadarnhaol mae'n debyg y bydd patrwm gwleidyddol y Cynulliad yn parhau i ddilyn y cwys sydd wedi ei ddilyn ers 1999. Fe fyddai Llafur yn arwain llywodraeth naill ai trwy glymbleidio gyda Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol neu drwy chwarae'r ddwy blaid yn erbyn ei gilydd a llywodraethu fel lleiafrif.

Os ydy'r ateb i'r cwestiwn uchod yn negyddol ar y llaw arall fe fyddwn yn wynebu Cynulliad â deinamig gwahanol iawn i'w ragflaenwyr - Cynulliad lle fyddai 'na ddau floc eglur - un ar y chwith yn cynnwys Llafur a Phlaid Cymru ac un ar y dde yn cynnwys y Ceidwadwyr a mwy na thebyg Ukip.

Mewn amgylchiadau felly fe fyddai Llafur yn llwyr ar ofyn Plaid Cymru a chan nad wyf yn gweld unrhyw fantais i Blaid Cymru mewn cynnal llywodraeth Lafur oddi allan fe fyddai ail glymblaid rhwng y ddwy blaid mwy neu lai'n anorfod.

Ymddengys nad yfi yw'r unig un sy'n meddwl felly. Y dydd o'r blaen sibrydodd aderyn bach yn fy nghlust i roi gwybod i mi y bydd pob un o'r gweinidogion a'r dirprwy gweinidogion presennol yn parhau yn eu swyddi tan yr etholiad. Mae hynny'n cynnwys Edwina Hart y Gweinidog Economi fydd yn gadael y cynulliad fis Mai nesaf.

Does dim angen bod yn athrylith i sylweddoli pa mor gyfleus fyddai hi i'r swydd yna fod yn wag ar ôl yr etholiad - honno wrth gwrs oedd yr union swydd a roddwyd i Mike German ac Ieuan Wyn Jones yn ystod y llywodraethau clymblaid blaenorol.

Wedyn, dyna i chi benderfynniad Leanne Wood i ddatgan yn ffurfiol na fydd Plaid Cymru'n ystyried clymblweidio â'r Ceidwadwyr flwyddyn nesaf. Mae ambell un wedi cwestiynu penderfyniad arweinydd Plaid Cymru i glymu ei dwylo yn y fath fodd ond mae'r cyhoeddiad yn gwneud synnwyr strategol.

Roedd modd dychmygu Ieuan Wyn Jones a Nick Bourne yn rhannu'r awenau llywodraethol. Ffantasi fyddai dychmygu Leanne Wood ac Andrew R.T Davies yn gwneud hynny. Pam felly goddef misoedd o gwestiynau gan newyddiadurwyr a gwatwar gan Lafur ynghylch rhywbeth na fyddai'n digwydd ta beth?

Mae'r sŵn ym mrig y morwydd felly a llywodraeth Coch / Gwyrdd arall ar y gorwel. Diflannodd yr enfys unwaith yn rhagor.