Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Am wn i, y gwleidydd sy'n cael ei ddyfynnu amlaf yw Winston Churchill. Yn sicr roedd ganddo ddawn dweud er nad efe oedd yn gyfrifol am bob un o'r dywediadau a briodolir iddo. Nid Churchill, er enghraifft, wnaeth honni mai "rum, sodomy and the lash" oedd prif nodweddion llynges Prydain a chyfaill iddo oedd yn gyfrifol am y sylw bod pawb yn Rhyddfrydwyr yn eu hieuenctid ac yn Geidwadwyr yn eu henaint.

Ond Churchill ei hun oedd yn gyfrifol am y fathu'r dywediad "To jaw-jaw is always better than to war-war." Fe ddywedodd hynny gyntaf yn 1954 gan awgrymu bod yr hen ryfelgi wedi dysgu rhywbeth yn ystod ei yrfa hir.

Mae gallu diplomyddiaeth i ddatrys problemau ar brawf ar hyn o bryd gyda dwy set o drafodaethau yn dwyn rhyw fath o ffrwyth yn ystod y dyddiau diwethaf.

Yn achos Groeg cytunodd llywodraeth y wlad honno i weithio fel Sisyphus i wthio'r graig i ben y bryn yn y gobaith y daw rhyw fath o faddeuant i'w dyledion rhyw ben, rhyw bryd. Yn y cyfamser draw yn Vienna cafwyd cytundeb ynghylch rhaglen niwclear Iran a'r sancsiynau y mae'r wlad honno wedi ei goddef ers blynyddoedd.

Y cwestiwn nawr yw ydy'r naill gytundeb neu'r llall yn cynnig datrysiad tymor hir i'r ddwy broblem.

A fydd y Groegwyr yn fodlon wynebu blynyddoedd o lymder, wythnos a hanner yn unig ar ôl iddynt bleidleisio yn erbyn yr union ddyfodol hwnnw? Fe gawn weld.

Yn achos Iran y cwestiwn yw a fydd Israel gyda'i dylanwad sylweddol ar Capitol Hill yn llwyddo i rwystro'r gyngres rhag dilysu'r cytundeb y mae Obama wedi cytuno iddo?

Cytundeb Vienna yw'r tebycaf o lwyddo, tybiwn i. Mae arolygon yn awgrymu bod Benjamin Netanyahu wedi gorchwarae ei law yn ddifrifol o safbwynt y farn gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau a bod llawer o'i gwleidyddion wedi dadrithio ynghylch llywodraeth Israel a'i pholisïau.

Mae'r ddau gytundeb, am wn i, yn amlygu'r peryg sy 'na mewn gofyn gormod. Mae'n ddigon posib bod gwledydd parth yr Euro, yn enwedig yr Almaen, wedi mynnu gormod gan bobl Groeg ac y bydd angen llawer mwy o 'jaw jaw' i sicrhau dyfodol economaidd y wlad honno. Yn sgil cytundeb Iran mae'n ymddangos bod y siarad ar ben ac Israel wedi cau hi ei hun allan o'r drafodaeth.

O leiaf dydyn ni ddim am fynd i ryfel.