Dyn drwg y Cwm
- Cyhoeddwyd
![Garry Monk](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/8D13/production/_84551163_da3f230d-171c-4021-b69c-6d2757f01ea9.jpg)
Mae hi'n wythnos dyngedfennol i'r dihiryn o Gwmderi Garry Monk (Richard Lynch). Faint wyddoch chi am ei hanes ar 'Pobol y Cwm'?
Rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw. Mae'r atebion ar waelod y dudalen:
![Garry yn ffraeo gyda Gethin ar ddiwrnod ei briodas gyda Dani](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/DB33/production/_84551165_garry_1.jpg)
Garry yn ffraeo gyda Gethin (Simon Watts) ar ddiwrnod ei briodas gyda Dani (Elin Harries)
1. Roedd Garry ar fin priodi Dani pan fu'n rhaid iddo adael y gwasanaeth i achub pwy?
(a) Brandon
(b) Sheryl
(c) Gethin
![Garry a Sheryl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/12953/production/_84551167_garry_2.jpg)
Garry a Sheryl (Lisa Victoria)
2. Pa benderfyniad anodd fu'n rhaid i Sheryl ei wneud oherwydd Garry?
(a) Mi gafodd hi erthyliad gan bod Garry yn dreisgar tuag ati
(b) Mi benderfynodd adael Cwmderi gan bod Garry wedi dwyn ei harian i gyd
(c) Gwrthododd hi briodi Garry am nad oedd hi'n hoffi'r cyfenw Monk
![Garry yn gweld ei dad yn yr ysbyty](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/4D17/production/_84553791_garry_3.jpg)
Garry yn gweld ei dad yn yr ysbyty
3. Pam fod tad Garry wedi gofyn iddo am faddeuant?
(a) Roedd o wedi curo Garry pan roedd o'n fachgen bach
(b) Roedd o wedi dweud celwydd wrth Garry am gyflwr ei iechyd
(c) Roedd Garry wedi meddwl ar hyd yr amser mai yr un tad oedd ganddo fo, Britt a Brandon
![Garry gyda Ed (Geraint Todd)](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/9B37/production/_84553793_garry_4.jpg)
Garry gydag Ed (Geraint Todd)
4. Beth ddaeth Garry o hyd iddo yng nghar Ed?
(a) Cwningen wedi marw
(b) Cyffuriau
(c) Breichled Britt
![Garry a Gwern](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/13777/production/_84553797_garry_6.jpg)
5. Mi wnaeth Garry gipio Gwern. Pwy yw ei fam?
(a) Gwyneth
(b) Cadno
(c) Anita
![Pa nwyddau oedd wedi eu dwyn oedd Gagrry wedi bod yn eu prynnu a gwerthu?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/18597/production/_84553799_garry_9.jpg)
6. Pa nwyddau oedd wedi eu dwyn fuodd Garryyn eu prynu a gwerthu?
(a) Gemau cyfrifiadurol
(b) Bagiau llaw
(c) Casgenni o fragdy Cic Mul
![Garry gyda Dani](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/E6B9/production/_84556095_garry_10.jpg)
Garry gyda Dani
7. Mae Garry a Dani yn trafod eu perthynas ar ôl angladd pwy?
(a) Denzil
(b) Tad Garry
(c) Brandon
Atebion
1 (b) Cafodd Sheryl ei herwgipio oherwydd bod Gethin wedi esgus bod yn Garry ac wedi ceisio twyllo drwgweithredwyr oedd yn dwyn ac yn gwerthu nwyddau iddo.
2 (a) Mi gafodd Sheryl erthyliad gan bod Garry yn dreisgar tuag ati. Doedd Garry ddim yn hapus o gwbl ond daeth i dderbyn y sefyllfa.
3 (c) Cafodd Garry wybod mai dyn a oedd o yn gredu oedd yn ewythr iddo pan yn blentyn, oedd ei dad go iawn. Felly, hanner brawd ydi o i Britt a Brandon.
4 (b) Tra roedd Garry yn gweithio yn y garej daeth o hyd i gyffuriau yng nghar Ed.
5 (a) Gwyneth yw mam Gwern. Mi wnaeth Garry gipio Gwern heb ddweud wrth Gwyneth. Doedd o ddim yn bwriadu dod yn ôl i Gwmderi ac am fagu'r plentyn ar ei ben ei hun. Ond fe dda'th Gwyneth o hyd iddyn nhw.
Ar ôl y digwyddiad yma penderfynodd Garry a Gwyneth roi'r gorau i frwydro dros warchodaeth Gwern, oherwydd mai Gwern ei hun oedd yn dioddef, neb arall.
6 (b) Bagiau llaw designer oedd y nwyddau dan sylw. Roedd Garry yn gwybod eu bod wedi eu dwyn cyn eu prynnu oddi wrth y lladron.
7 (c) Mae Garry a Dani yn dod yn agosach at ei gilydd ar ôl angladd Brandon. Roedden nhw yn teimlo'n euog, gan mai rhedeg nôl i'r fflat i weld Dani oedd Brandon ar ôl dod i wybod fod Dani a Garry wedi rhannu cusan yn Newcastle.
Faint gawsoch chi'n gywir?
0-2 Nefi blŵ! Be 'dych chi'n 'neud am 8pm bob nos?
3-4 O diar! 'Dych chi'n meddwl mai am reolwr tîm pêl-droed Abertawe 'da ni'n sôn?!
5-6 Ddim yn ddrwg. Rhaid i chi wrando yn fwy astud ar y clecs yn Y Deri Arms.
7 Mi fydda' Garry Monk yn falch ohonoch chi! Ond cofiwch... bihafiwch!