Y gorau o ddau ddewis

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae damcaniaethau lu wedi eu cynnig i esbonio'r trychineb sydd wedi traflyncu Llafur yr Alban.

Prin tair blynedd sydd yna ers cyhoeddi "The Strange Death of Labour Scotland" gan Gerry Hassan a Eric Shaw oedd yn rhagweld llawer o'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban ers hynny. Mae hwnnw gwerth ei ddarllen neu ei ailddarllen ac am olwg fwy cyfoes mae e-lyfr Ian McWhirter "Tsunami: Scotland's Democratic Revolution" yn ddarlleniad hanfodol.

Mae 'na un ffactor y mae pawb sydd wedi pendroni ynghylch y pwnc yn gytûn yn ei chylch sef bod Llafur wedi dioddef oherwydd y canfyddiad mae'r ail dîm oedd wedi ei ddanfon i'r cae yn Holyrood. Ar gaeau bras San Steffan yr oedd bwystfilod mawr Llafur yr Alban yn chwarae.

Dyw hynny ddim wedi bod yn gymaint o broblem i Lafur yng Nghymru yn rhannol oherwydd ddiffyg cyffredinol o safbwynt magu sêr gwleidyddol.

Mae'n wir bod Peter Hain a Paul Murphy wedi chwarae yn yr uwch gynghrair yn San Steffan ond, a bod yn onest, doedd y naill na'r llall yn debyg o gyrraedd y Champion's League! Doedd gan Lafur Cymru neb o swmp a statws Brown, Cook, Darling neu hyd yn oed George Robertson a Douglas Alexander.

Y pen yma i'r M4 ar y llaw arall y mae Llafur wedi cynhyrchu dau arweinydd, Rhodri Morgan a Carwyn Jones, sydd, yn ymddangosiadol o leiaf, yn ben ac ysgwydd uwch na'r gyfres o arweinwyr tila ac eilradd fu'n cario'r faner goch yn siambr Holyrood.

Dyw canmol y capteiniaid ddim yn gyfystyr â chanmol y tîm wrth reswm a dyw'r ffaith bod dau aelod o'r Cabinet wedi bod yna o'r dechrau'n deg yn 1999 ddim yn arwydd o gryfder ar y meinciau Llafur.

Yn sicr o 1999 tan yn ddiweddar iawn roedd y rhan fwyaf o wleidyddion mwyaf talentog ac uchelgeisiol y blaid o hyd yn gweld San Steffan fel y lle i fod. Mae'n ymddangos i mi bod hynny yn newid.

Heb bechu neb, gobeithio, rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod yr ymgeiswyr y mae Llafur wedi dewis hyd yma a'r rhai sy'n debyg o gael eu dewis yn rhagori ar y rhai bu yno o'u blaenau. Mae nhw hefyd yn garfan fwy talentog na'r garfan o aelodau seneddol newydd gafodd ei hethol eleni.

Efallai bod y geiniog yn disgyn o'r diwedd. Mae bod mewn llywodraeth, unrhyw lywodraeth, yn rhagori ar fod yn wrthblaid - pa mor bynnag crand yw'r palas y mae'r wrthblaid honno'n byw ynddi.