Gweithwyr cwmni Bws Caerdydd ar streic

  • Cyhoeddwyd
Protest gweithwyr bws yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 250 o weithwyr bws yn gorymdeithio yng Nghaerdydd ddydd Mercher

Mae gweithwyr cwmni Bws Caerdydd yn cynnal y gyntaf mewn cyfres o streiciau oherwydd anghydfod ynglŷn â thâl.

Fe ddechreuodd y streic am hanner nos ac mae'n parhau trwy ddydd Mercher.

Yn ystod y bore bu'r gweithwyr - sy'n aelodau o undeb Unite - yn gorymdeithio drwy ganol y brifddinas i gydfynd â'r gweithredu diwydiannol.

Yn ôl amcangyfrif, roedd tua 250 o bobl yn rhan o'r rali.

Mae'r undeb - sydd â 540 o aelodau yn y cwmni - wedi gwrthod codiad cyflog o 5% erbyn 2016.

Mae cwmni Bws Caerdydd wedi dweud eu bod yn siomedig am y streic, yn enwedig gan fod aelodau Unsain wedi awgrymu ym mis Gorffennaf y byddan nhw'n derbyn y cynnig codiad cyflog.

Methiant fu trafodaethau rhwng y ddwy ochr ddydd Mawrth i geisio datrys yr anghydfod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb Unite wedi gwrthod codiad cyflog o 5% erbyn 2016

Gwasanaeth cyfyngedig

Mae'r cwmni yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig i faestrefi yn ystod y streic.

Mae tair o'r streiciau yn cyd-fynd â gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys gêm Cymru yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Bws Caerdydd, Cynthia Ogbonna, mai'r cynnig oedd yr un "gorau posib o safbwynt y sefyllfa economaidd".

"Rhaid i ni feddwl am gynaliadwyedd y busnes," mgeddai.

"Byddwn yn parhau i gyfathrebu gyda'r undeb yn y gobaith y bydd yr anghydfod yn dod i ben mor fuan â phosib."

Dywedodd trefnydd rhanbarthol Unsain, Alan McCarthy, fod y cwmni yn "anhyblyg".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bws Caerdydd yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig i faestrefi yn ystod y streic