Corbynfydrwydd

Reit, mae'r haf hirfelyn tesog ar ben a ninnau yn ôl wrth ein gwaith. Ac ydy, mae fy nhafod i'n sownd yn fy moch wrth ddisgrifio haf eleni felly. Hwyrach bod yr hinsawdd yn well yn nyddiau Dafydd ap Gwilym! Does ond gobeithio y bydd tymor y porffor perffaith yn troi mas yn well.

Un dyn, ac un yn unig, sydd wedi bod yn gwneud y tywydd gwleidyddol ers y tro diwethaf i ni siarad.

Jeremy Corbyn yw hwnnw, wrth gwrs a does 'na ddim arwydd bod y don o Gorbynfydrwydd, os ydy hwnnw'n gyfieithiad teg o 'Corbynmania', ar fin gostegu.

Mae'n bosib wrth gwrs y bydd yr hen rebel yn boddi wrth y lan ond does dim arwydd eto y bydd hynny'n digwydd. Beth sy'n digwydd os ydy Corbyn yn cael ei ethol yw'r cwestiwn mawr, wrth reswm.

Mae'n flin gen i, does gen i ddim ateb - neu ddim ateb pendant o leiaf.

Mae'n bosib ein bod yn wynebu'r fersiwn wleidyddol o'r hyn mae economegwyr yn galw'n 'disruption'.

Mae Geiriaduron yn cynnig amhariad, hollt a rhwyg fel cyfieithiadau o'r term hwnnw ond does un o'r rheiny yn cyfleu'r union ystyr mewn gwirionedd. Yr hyn yw 'disruption' yw digwyddiad neu ddyfais nad oedd bron neb yn gweld yn dod sy'n trawsnewid sefyllfa mewn ffyrdd sy'n amhosib eu proffwydo.

Y rhyngrwyd yw'r enghraifft fwyaf diweddar o 'disruption' economaidd. Os oedd ganddo'ch chi siars yn 'Blockbusters Video' fe fyddwch chi'n deall y peth yn iawn ond mae'r effeithiau'n gallu bod yn llai uniongyrchol. Pwy fyddai wedi rhagweld y byddai hanner clybiau nos Prydain yn cau wrth i bobol chwilio am sboner trwy sweipio ffôn yn hytrach na slochian?

Mae digwyddiadau felly'n bethau anarferol iawn yn ein gwleidyddiaeth ni. Fe ddaethon ni'n agos yn 1981 gyda ffurfio'r SDP ond dros gyfnod o ddegawd fe ddisgynnodd y darnau yn ôl i'w lle.

A dweud y gwir trwy gydol yr ugeinfed ganrif yr unig 'disruption' go iawn oedd hwnnw yn Hydref 1922 pan wnaeth y Ceidwadwyr benderfynu torri'n rhydd o afael Dewin Dwyfor gan wthio Lloyd George a'i blaid i bwll anobaith am ddegawdau.

Gallasai ethol Jeremy Corbyn fod yn ddigwyddiad felly gan arwain at rwygiadau ar y dde yn ogystal â'r chwith. Wedi'r cyfan, gelyniaeth tuag at y blaid Lafur yw'r glud sy'n uno'r Ceidwadwyr a phe bai Llafur yn hollti mae'n ddigon posib y byddai ei gwrthwynebwyr yn dilyn yr un trywydd.

Rwyf wedi bod yn y busnes yma'n ddigon hir i gyd i gredu fy mod gweld popeth y gall gwleidyddiaeth Prydain daflu at ddyn ond dyma'r eildro eleni i ni weld y platiau tectonig yn symud.

Fe ddigwyddodd hynny yn yr Alban ym mis Mai. Nawr mae'n digwydd oddi mewn i'r mudiad Llafur.

I ble mae hyn oll yn arwain?

Dewch yn ôl mewn blwyddyn. Efallai y bydd gen i ateb i chi bryd hynny!