Byd y Bale
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr y golofn hon yn gyfarwydd â'r drafodaeth a ysgogwyd gan lyfr diweddar Simon Brooks 'Pam Na Fu Cymru, dolen allanol'. I'r rheiny ohonoch sydd wedi bod ar wyliau neu'n celu mewn ogof mae broliant y llyfr yn grynodeb da o'r cwestiwn y mae Simon yn ei ofyn.
"Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd y rhan fwyaf o wledydd bychain Ewrop i feithrin mudiadau cenedlaethol llwyddiannus a fynnai warchod eu hieithoedd. Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddigwyddodd hyn yn y wlad hon."
Mae'n gwestiwn da, er nad wyf yn llwyr gytuno â'r ateb y mae Simon yn ei gynnig, ond cwestiwn arall sy' gen i heddiw. Dyma fe.
Yn sgil y 'methiant' y mae Simon yn sôn amdano pam na chafodd Cymru ei thraflyncu'n llwyr gan Loegr?
Wedi'r cyfan doedd hi ddim yn anarferol i bobl oes Fictoria gyfeirio at Gymru fel rhan o Loegr a thra bod gan Gymru'r cyfnod hwnnw ambell i sefydliad cenedlaethol pethau digon Seisnig a Sais-garol oedden nhw ar y cyfan.
Beth felly wnaeth gynnal y cysyniad o Gymru fel cenedl yn y cyfnod rhwng methiant Cymru Fydd a refferendwm 1997?
Mae bodolaeth plaid genedlaethol, pa mor bynnag fechan oedd honno, yn rhan o'r ateb, dybiwn i, ond mae a wnelo dau sefydliad arall lawer â'r peth hefyd. Cymdeithas Pel-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yw'r cyrff hynny.
Cyn i chi feddwl fy mod yn gwirioni meddyliwch am eiliad sut wlad fyddai Cymru pe bai gwŷr y bel gron a 'r bel hirgron wedi dilyn esiampl y bois criced wrth drefnu eu campau.
Dyma sydd gan yr hanesydd Norman Davies i ddweud ynghylch y peth.
"The widespread failure to create teams representing the entire United Kingdom must be seen as a symptom of the wider failure to complete the construction of a British nation."
Nawr ystyriwch yr hyn ddywedodd Tony Blair ddeuddydd yn ôl.
"We should have understood that, when you change the system of government so that more power is devolved, you need to have ways of culturally keeping England, Scotland and Wales very much in sync with each other. We needed to work even stronger for a sense of UK national identity."
Ydy hi'n ormodedd i ddweud mai 'byd y Bale' yw Cymru'r ganrif hon? Efallai, ond efallai ddim!