Galw am roi mwy o help i newyddiaduraeth leol

  • Cyhoeddwyd
Hyperlocal media

Bydd cynhadledd ar ddyfodol newyddiaduraeth leol yn clywed bod angen mwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth i gyfryngau hyperleol.

Mae Damian Radcliffe, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn lansio adroddiad ar gyflwr y diwydiant a'r sialensiau sy'n ei wynebu.

Mae'r adroddiad yn amlygu cyfraniadau positif newyddiaduraeth hyperleol, ond mae pryder am gynaliadwyedd.

Prifysgol Caerdydd sy'n cynnal y digwyddiad ddydd Mercher.

Dywed Mr Radcliffe: "Ers 2012, rydym wedi gweld newid sylweddol yn y dystiolaeth empeiraidd am gyfryngau hyperleol y DU. Mae ymchwil gan sefydliadau academaidd, cyrff anllywodraethol a rheoleiddwyr wedi gwella ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd, cynnwys a modelau busnes ar draws y sector hwn.

"O ganlyniad i hynny, mae gennym yr awgrym cryfaf eto o'r gwerth dinesig a chyhoeddus y mae'r cyfryngau hyperleol yn eu creu wrth gynhyrchu amrywiaeth o allbynnau newyddiadurol a chymunedol; o ddwyn awdurdod i gyfrif, i gynnal ymgyrchoedd a gohebu am ddigwyddiadau lleol.

'Dim sicrwydd hirdymor'

Ychwanegodd: "Ond er gwaethaf y gydnabyddiaeth a'r ddealltwriaeth gynyddol, yr un yw'r prif heriau i ffyniant y cyfryngau hyperleol yn y DU, gan olygu nad oes unrhyw sicrwydd hirdymor i'r sector.

"Mae'r ansicrwydd hwn yn golygu bod gormod o gyhoeddwyr cymunedol yn gorfod byw un dydd ar y tro, ac mae hyn yn effeithio'n anochel ar gynaliadwyedd y sector a'i apêl i'r rhai sydd am ddechrau gweithio ynddo."

Mae'r adroddiad yn awgrymu cynnig y cyfle i gyhoeddwyr hyperleol werthu erthyglau i'r BBC ac annog cwmnïau technoleg fel Google i wneud erthyglau yn haws i'w darganfod.

Ychwanegodd Mr Radcliffe: "O ystyried bod un o bob pedwar o'r rhai sy'n mynd ar y we yn defnyddio gwefannau neu apiau lleol, mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r cyfleoedd enfawr yn ogystal â'r heriau i newyddiaduraeth gymunedol yn y DU. Mae'n dangos bod cyfle iddo fod yn sector bywiog sy'n cynnig gwerth cyhoeddus amlwg i gymdeithas a bod angen hynny'n fwy nag erioed o'r blaen."