Gwrthod cais tai carbon isel yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
llanboidy
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r pedwar tŷ wedi eu hadeiladu yn Llanboidy, ger Hendy-gwyn ar Daf

Mae cynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod cais cynllunio i godi pedwar o dai carbon isel yn Llanboidy ger Hendy-gwyn ar Daf.

Hwn oedd y cais cynaf o'i fath i gael ei ystyried yn y sir o dan bolisi 'Un Blaned' Llywodraeth Cymru.

Fe fyddai'r tai wedi eu codi o bren, gwellt a defnyddiau naturiol eraill.

Mae datblygiadau o'r fath yn cael eu caniatáu yng nghefn gwlad os "mai bach iawn fydd eu heffaith ar yr amgylchedd."

Cafodd cais am ddatblygiad tebyg yng Nglandŵr Sir Benfro ei ganiatáu.

Fe gafodd Charlie Hague a Megan Williams ganiatâd cynllunio gan arolygydd o dan bolisi Un Blaned.

Roedd eu cais gwreiddiol wedi ei wrthod gan gynghorwyr Sir Benfro.

Bwriadu apelio

Dywedodd y pedwar teulu yn Rhiw Las, Llanboidy, mai eu bwriad oedd cynnal bywoliaeth yn rhannol o'r tir, drwy dyfu llysiau a ffrwythau, gwneud caws a chadw gwenyn.

Yn ôl y teulu, byddai 30% o'u bwyd yn dod o gynnyrch naturiol.

Ond roedd rhai o'r cynghorwyr yn amau a fyddai pedwar teulu yn gallu byw ar bum acer o dir yr un.

Cafodd y cais ei wrthod o 10 pleidlais i bedwar.

Dywedodd Dr Erica Thompson ar ran y teuluoedd eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.