Ymgyrch diogelwch myfyrwyr ar groesfannau rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Trên

Mae ymgyrch diogelwch wedi'i lansio wedi i 108 o bobl ifanc bron â chael eu taro gan drenau ar groesfannau rheilffordd dros y pum mlynedd diwethaf.

Rheolwyr croesfannau sy'n bwriadu ymweld â cholegau a phrifysgolion yn ystod yr wythnosau nesaf i bwysleisio'r angen i fod yn ofalus ger y traciau.

Dywedodd Network Rail fod rhai damweiniau wedi digwydd pan oedd pobl yn canolbwyntio ar eu ffonau neu'n gwrando ar gerddoriaeth.

"Ry'n ni'n gwybod bod llawer o bobl ifanc yn symud i dref neu ddinas newydd i fynd i goleg neu brifysgol, ac mae'n bosib nad ydyn nhw'n adnabod y rheilffyrdd a sut mae croesfannau yn gweithio yn yr ardal," meddai Pennaeth Diogelwch Network Rail, Darren Cottrell.

"Ry'n ni eisiau gweithio gyda mudiadau myfyrwyr i helpu gwella'r ymwybyddiaeth ymysg myfyrwyr i'w cadw yn ddiogel yn eu hardaloedd newydd."