Seicolegydd plant o Faglan yn gorfod talu £1,690 o iawndal
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe mae seicolegydd plant, oedd yn euog o dwyll, wedi cael gorchymyn i dalu £1,690 o iawndal i fwrdd iechyd a £1,300 o gostau i Wasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd Denise Whitworth, 48 oed o Faglan, Port Talbot, orchymyn cymunedol am flwyddyn a bydd rhaid iddi gyflawni 150 o oriau o waith di-dâl.
Roedd hi wedi pledio'n ddieuog.
Clywodd y llys ei bod hi wedi rhoi cyngor i gleientiaid preifat pan oedd hi'n absennol o'i gwaith rhan amser yn y Gwasanaeth Iechyd oherwydd salwch.
Roedd hi'n gweithio yn Nhŷ Llidiard, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Rheolwr yn gwybod
Pan oedd hi wedi cael ei holi roedd hi wedi honni bod ei rheolwr yn gwybod am y trefniadau i weld cleientiaid preifat.
Ond cadarnhaodd ei rheolwr nad oedd hyn yn wir.
Yn Awst 2013 cafodd Whitworth ei diswyddo oherwydd camymddygiad dybryd.
Dywedodd David Jones, pennaeth adran atal twyll y bwrdd iechyd: "Roedd hi'n uwchreolwr yn y bwrdd iechyd ac roedd ei swydd yn golygu onestrwydd llwyr.
"Roedd yn hollol annerbyniol ei bod yn gweithio mewn lle arall pan oedd hi'n absennol oherwydd salwch."