Cymru ar eu ffordd i Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau pêl-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958 .
Er y siom o golli roedd yna ddathlu i gefnogwyr Cymru yn Bosnia ar ôl i Israel golli gartref i Gyprus ar yr un noson.
Roedd yn rhaid i Israel ennill os am gael unrhyw obaith o atal Cymru rhag sicrhau o leiaf ail safle yn Grŵp A.
Roedd yna 750 o gefnogwyr Cymru ymhlith y dorf o ychydig dros 12,000 ac er i Gymru golli 2-0 roedd yna ddathlu mawr ar ddiwedd y gêm wrth iddynt glywed am sgôr Israel.
Fe wnaeth chwaraewyr Cymru gofleidio'r rheolwr Chris Coleman ar ddiwedd y gêm, unwaith i ganlyniad Israel gael ei glywed, gan ei daflu i'r awyr mewn llawenydd.
Hon oedd y gêm gyntaf iddynt golli yn y grŵp, ac roedd eu record amddiffynol yn allweddol yn eu llwyddiant.
Di sgôr oedd hi ar yr egwyl a'r amodau yn rhai anodd iawn, gyda glaw di-baid.
Fe roedd perfformiad Cymru yn y 45 munud cyntaf yn un disgybledig, a nhw gafodd y cyfleoedd gorau tua diwedd yr hanner.
Ond yn yr ail hanner sgoriodd Milan Duric gyda'i ben, gyda Vedad Ibisevic yn ychwanegu'r ail.
Dywedodd Coleman ar ddiwedd y gêm: "Anhygoel, allai ddim egluro fel mae hyn yn teimlo. Rwy'n siomedig o golli, ond dwi hefyd yn gwybod beth sydd o'n blaenau, ac yn edrych ymlaen."
Hefyd wrth ei fodd oedd y chwaraewr canol y cae Aaron Ramsey: "Am achlysur gwych i chwaraeon yng Nghymru. O'r diwedd rydym wedi cyrraedd un o brif gystadlaethau'r byd."
Y tro diwethaf i Gymru lwyddo i gyrraedd prif gystadleuaeth pêl-droed, Harold Macmillan oedd y prif weinidog a Jailhouse Rock, Elvis Presely oedd ar frig y siartiau.
Dywedodd Gareth Bale mai hwn oedd "colled orau" ei yrfa.