Rhan o'r A55 wedi ailagor yn llawn wedi nam systemau diogelwch

Arwydd ffordd ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr A55 ar gau am oriau ger Twnnel Conwy o tua 08:30 ymlaen ddydd Llun cyn ailagor yn rhannol, ac yna yn gyfangwbl erbyn ganol y prynhawn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r A55 wedi ailagor yn llawn i draffig yn ardal Twnnel Conwy, a fu'n rhaid cau am rai oriau ddydd Llun ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol.

Roedd y twnnel ar gau i'r ddau gyfeiriad o tua 08:35 ymlaen gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio, ac roedd yna gyngor i yrwyr ddisgwyl oedi a chaniatáu mwy o amser ar gyfer eu siwrne.

Fe ailagorodd y lôn i gyfeiriad y dwyrain am 13:35, a daeth cadarnhad am 14:50 bod y ffordd ddeuol ar agor yn llawn unwaith yn rhagor.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y broblem yn ymwneud â nam gyda'r systemau diogelwch o fewn y twnnel.

Ychwanegodd y llywodraeth mewn datganiad: "Mae gwaith yn cael ei wneud ar frys i ymchwilio i'r nam a'i drwsio cyn gynted â phosib.

"Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, dyw hi ddim yn bosib teithio drwy'r twnnel tan fod y nam yma wedi cael ei drwsio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.