Y daith i Euro 2016: Cofio Gary Speed
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman yn un o nifer sydd wedi rhoi teyrnged i'w "ffrind da", Gary Speed ar ôl i dîm pêl-droed Cymru sicrhau eu lle yn Euro 2016.
Wrth i'r wlad ddathlu llwyddiant y tîm o gyrraedd twrnamaint pêl-droed mawr cyntaf ers 1958, mae nifer wedi troi eu meddyliau at y dyn ddechreuodd y cyfan.
Bu farw Gary Speed yn 2011, tra'n rheolwr Cymru. Dywedodd ei olynydd, Coleman, fod Gary bob amser ym meddyliau'r tîm.
Mae tad Gary Speed hefyd wedi siarad am ei falchder.
Er gwaethaf i Gymru golli 2-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina, nos Sadwrn, fe lwyddodd Cymru i gymhwyso ar gyfer Ewro 2016 wedi i Israel golli i Gyprus.
Mae teyrngedau i'r cyn-reolwr wedi llifo ar y cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys neb llai na chyn-gapten Lloegr, David Beckham.
Ysgrifennodd Beckham ar Instagram, ynghyd â llun o Gary Speed yn ystod ei ddyddiau'n chwarae dros Gymru, dywedodd: "Byddai'r dyn yma wedi bod mor falch heno... Llongyfarchiadau i Chris Colman, yr holl chwaraewyr a phawb sy'n ymwneud â phêl-droed yng Nghymru ..."
Fe gymerodd Coleman drosodd oddi wrth Speed, a oedd wedi cael rhediad o bum buddugoliaeth gyda thîm Cymru.
Wrth siarad ar ôl y gêm yn Zenica nos Sadwrn, dywedodd Coleman byddai'n ffonio rhieni Speed, Roger a Carol.
"Byddaf yn codi gwydraid at fy ffrind da Gary Speed heno .... sydd wastad yn ein meddyliau," ychwanegodd.
Dywedodd pan gymerodd y swydd ar ôl marwolaeth Gary Speed ei fod mewn "sefyllfa anodd".
"Roedd Gary Speed yn ddyn mor wych â phresenoldeb ardderchog, roeddwn am barhau i adeiladu ar ei waith da, er mor anodd oedd hynny" meddai Coleman.
Dywedodd Roger Speed tad Gary: "Rwyf wrth fy modd fod Cymru wedi gwneud hyn o'r diwedd. Ac mae'n rhoi balchder mawr fod enw Gary wedi cael ei grybwyll yn y dathlu - gan y chwaraewyr a'r cefnogwyr.
"Roeddwn i lawr yng Nghaerdydd yn y gêm yn erbyn Israel y mis diwethaf, ac erioed wedi profi awyrgylch fel 'na. Fe ddechreuodd y cefnogwyr ddechrau canu hoff gân Gary - I Can't Take My Eyes Off You - ac yna dechrau llafarganu ei enw. Fe roddodd hyn yr ias i mi. Roeddwn i mewn dagrau.
"Mae gwylio'r tîm hwn wedi rhoi cymaint o bleser i mi, ac mae Chris Coleman yn haeddu llawer iawn o'r clod am yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni. Yr oedd mor anodd iddo ddilyn Gary ond mae wedi gwneud gwaith gwych. Mae'r ysbryd yn y garfan yn rhywbeth arbennig iawn.
"Sais ydw i mewn gwirionedd, a aned yng Nghaer. Ond mae dylanwad Gary yn sicr wedi fy nhroi i fod yn gefnogwr Cymru, A does dim amheuaeth y byddaf yn Ffrainc i'w cefnogi'r haf nesaf.
Dywedodd cyn ymosodwr Cymru, John Hartson: "Pan gafodd Gary ei gymryd i ffwrdd oddi wrthym, roedd y wlad gyfan mewn galar ac fe gafodd y chwaraewyr i gyd eu heffeithio gan ei farwolaeth. Felly, roedd hi'n dasg anodd iawn i Chris i ddod i mewn a cheisio symud ymlaen, ond mae'r ffordd maent wedi gwneud hynny wedi bod yn wych. "
Fe drydarodd cyn-chwaraewr arall o Gymru, Robbie Savage: "A gadewch i ni beidio ag anghofio'r chwedlonol, Gary Speed, y dyn a roddodd y gred yn ôl i'n cenedl."