Nifer achosion caethwasiaeth wedi dyblu mewn dwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr achosion o gaethwasiaeth yng Nghymru wedi dyblu mewn dwy flynedd, gyda'r heddlu yn dweud eu bod yn hyfforddi mwy o swyddogion i ddelio â'r broblem.
Y llynedd, fe gafodd 70 o bobl eu hadnabod yn swyddogol gan yr heddlu fel caethweision - ffigwr sydd i fyny o 35 yn 2012.
Mae caethweision yn aml yn bobl fregus, sy'n agored i niwed, sydd wedi eu gorfodi i weithio yn anghyfreithlon ac yn erbyn eu hewyllys, yn aml mewn sefydliadau fel puteindai a ffermydd.
Dydd Llun yw dechrau wythnos wrth-gaethwasiaeth gyntaf Cymru, sy'n cael ei gynnal i dynnu sylw at y broblem.
Caethwasiaeth fodern
Mae'r ymgyrch, a gynhelir gan y pedwar llu heddlu yng Nghymru, yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth fodern drwy annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus rhag ofn ei fod yn rhywbeth sy'n digwydd yn eu cymunedau.
Mae'r heddlu yn gobeithio hefyd y bydd yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen.
Mae 'caethwasiaeth fodern' yn cynnwys llafur gorfodol, caethwasanaeth domestig, ecsbloetio plant a phuteindra.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Griffiths, sy'n arwain plismona gweithredol ar gaethwasiaeth modern yng Nghymru: "Mae'n gamsyniad cyffredin bod caethwasiaeth modern yn fater i rannau eraill o'r byd.
"Y gwir yw bod dioddefwyr masnachu pobl yn bodoli mewn cymunedau ar draws Cymru."
Fe ddaeth yn bwnc llosg ar ôl i David Daniel Doran gael ei garcharu flwyddyn yn ôl am orfodi dyn bregus i weithio'n ddi-dâl ar fferm ger Casnewydd.
Fe gafodd Darrell Simester, o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon, ei orfodi i weithio am hyd at 16 awr y dydd ar Fferm Cariad yn Llanbedr, ger Casnewydd, a dim ond dau ddiwrnod o wyliau a gafodd dros gyfnod o 13 mlynedd.
Ar ôl iddo gael ei ddarganfod gan Heddlu Gwent, fe gafodd Ymgyrch Imperial ei sefydlu, er mwyn edrych i mewn i achosion o gam-drin - ac yn fuan iawn wedyn fe ddaeth swyddogion yn ymwybodol o fwy o ddioddefwyr caethwasiaeth.
Mae'r Ditectif Uwcharolygydd Griffiths yn amcangyfrif fod rhwng 10,000 a 13,000 o gaethweision yn y DU.
Ond dim ond nifer fechan o achosion sy'n cael eu cofnodi yn swyddogol, gan fod nifer o ddioddefwyr yn rhy ofnus i ddod ymlaen, ac efallai nad ydi rhai caethweision yn deall eu bod yn cael eu hecsbloetio.
Mae'r ffigur yn parhau i gynyddu, gyda 50 o ddioddefwyr yn cael eu darganfod yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon.
Bellach mae swyddogion o bob cwr o'r DU yn dod i Gymru i gael eu hyfforddi ar sut i ddelio â'r broblem - hyd yma, mae 80 o bobl wedi bod ar y cyrsiau arbenigol.
O'r flwyddyn nesaf, bydd cyrsiau yn cael eu cynnal yng ngogledd Cymru, er mwyn sicrhau y gall mwy o heddweision gael eu hyfforddi.
Dywedodd Steve Chapman, cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth llywodraeth Cymru: "Pan gymerais y swydd hon ddwy flynedd yn ôl, buaswn yn dweud fod Cymru yn gwadu bod caethwasiaeth yn digwydd yma.
"Nod Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru yn wlad gyfan gwbl wrth gaethwasiaeth, ac i ddarparu'r cymorth gorau posibl i ddioddefwyr."