Swydd comisiynydd i 'berson mewnol Llafur'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gynghorydd Llafur ac ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru wedi'i phenodi fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae Sophie Howe wedi ei disgrifio fel "person mewnol Llafur" gan y Ceidwadwyr Cymreig, tra bod Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi dweud bod "perygl go iawn" y gallai'r rôl gael ei pheryglu.
Mae Diane McCrea hefyd wedi cael ei phenodi fel cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol, Carl Sargeant, bod y swyddi yma yn "rhai hanfodol".
Yn ôl disgrifiad swydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, sydd yn talu dros £90,000 y flwyddyn, fe fydd y rôl yn gwella cymdeithas, economi, amgylchedd a lles diwylliannol Cymru.
Penodiad 'od'
Roedd Ms Howe yn arfer gweithio i'r llywodraeth fel ymgynghorydd i Carl Sargeant, sydd wedi bod yn Weinidog Cyfoeth Naturiol ers 2014.
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, bod penodiad Ms Howe yn un "od", ac y bydd yn synnu llawer yn y sector.
"Rwy'n poeni bod rhywun sydd â hanes o weithio i'r gweinidog yn unig sydd wedi'i hapwyntio," meddai.
"Dydi hi ddim yn ymddangos bod ganddi gymwysterau na diddordeb yn y maes yma."
Ychwanegodd Cyfeillion y Ddaear Cymru: "Mae'r apwyntiad yn dangos y broblem bod y comisiynydd yn atebol i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Mae perygl gwirioneddol y gall rôl y comisiynydd gael ei gyfaddawdu oherwydd ei bod eisiau plesio'r llywodraeth."
'Unigolyn galluog'
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, nad oes gan y gwrthbleidiau le i feirniadu apwyntiad Ms Howe gan mai panel trawsbleidiol wnaeth y penderfyniad.
"Dydw i ddim yn rhannu ei gwleidyddiaeth ond mae hi'n unigolyn galluog iawn," meddai.
"Rwy'n deall mai hi oedd dewis unfrydol y panel trawsbleidiol wnaeth ddewis ei hapwyntio felly mae hi'n od bod Andrew RT Davies yn gwrthwynebu ei hapwyntiad."
Dadansoddiad Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Wrth gyhoeddi'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol newydd yr un pryd â chadeirydd ac aelodau o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, mae 'na fwy o feirniadu Llywodraeth Cymru nag oedd y gweision sifil a'r gwleidyddion wedi ei ddisgwyl efallai.
Cyfeiriwyd yn syth at ddiffyg arbenigedd Sophie Howe mewn materion amgylcheddol gan y Ceidwadwyr a Chyfeillion y Ddaear - mewn swydd sydd â chyflog o £95,000 y flwyddyn.
Ond roedd aelodau pob plaid yn y Cynulliad ar y panel awgrymodd ei henw - yr unig enw fel mae'n digwydd. Fel Prif Weinidog, Carwyn Jones oedd â'r gair olaf ar y penodi.
Wyneb anghyfarwydd arall ym maes amgylchedd Cymru ydi Diane McCrea. Mae hi'n olynnu Peter Matthews, oedd hefyd â chefndir yn y diwydiant dŵr, ac yn ôl datganiad y llywodraeth mae ganddi brofiad uniongyrchol o ddatblygu strategaeth a pholisïau gyda chwsmeriaid a chymunedau.
Gwyddonydd amgylcheddol ydi Madeline Havard, sydd yn aelod o'r bwrdd ers 3 blynedd - hi fydd y dirprwy-gadeirydd newydd.
Pryderon nifer ym maes cadwraeth ydi'r diffyg cefndir, neu hyd yn oed gwybodaeth, o amgylcheddiaeth Cymru.
Y tuedd ydi credu bod amrywiaeth byd natur Cymru yn dadfeilio.
Fe ddywedodd un ffigwr blaenllaw wrtha i fod yr apwyntiadau yma'n dda i Gymru, ond mae pryder bod rhai amgylcheddwyr dan yr argraff fod y sector amgylcheddol dan fygythiad, ac na ddylid bod yn or-amdiffynnol.