Cymry wedi'u dal ynghanol y gyflafan ym Mharis
- Cyhoeddwyd
Mae Cymry oedd ymysg y rhai gafodd eu dal yng nghanol y gyflafan ym Mharis wedi disgrifio'r panig ac ofn ar y strydoedd.
Cafodd o leia' 129 o bobl eu lladd mewn chwe ymosodiad ar draws y brifddinas nos Wener.
Roedd Seiriol Hughes, o Gaernarfon, yn y Stade de France yn gwylio'r gêm bêl-droed rhwng Ffrainc a'r Almaen pan glywodd y cefnogwyr ffrwydradau.
Fe ymosododd y bomwyr a'r dynion arfog ar fariau, tai bwyta a neuadd gyngerdd yn y ddinas.
Mae'r mudiad sy'n galw eu hunain yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am y gyflafan.
Disgrifiodd Mr Hughes ei fod wedi clywed "clec uchel, sŵn ffrwydrad ac fe aeth y dorf yn ddistaw" yn y Stade de France, ond bod pobl yn meddwl mai tân gwyllt ydoedd.
Dywedodd mai dim ond ar ôl y gêm, wedi i'r torfeydd adael y stadiwm, y daeth pobl i ddechrau deall yr hyn oedd wedi digwydd.
"Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi sbarduno, ac fe ddechreuodd pobl redeg i ffwrdd, codi eu plant a rhedeg a gyda golwg o banig ac ofn yn eu llygaid a doedden ni methu gweithio allan pam," meddai.
"Ond, pan oedden ni ar y trên ar y ffordd o'r stadiwm, fe ddechreuon ni gael signal ffôn ac yna fe ddechreuodd y negeseuon ddod trwodd, bod rhywbeth yn amlwg wedi bod yn digwydd ac nid tân gwyllt oedd y ffrwydradau."
'Sioc'
Roedd Yr Athro Ceri Davies, o Benarth, mewn tafarn gyfagos, a aeth ati'n syth i dynnu gorchuddion ffenestri i lawr er mwyn cadw cwsmeriaid yn ddiogel.
"Rydyn ni mewn sioc," meddai. "Fe gawsom ein cynghori i aros yn y dafarn fel eu bod yn cau'r rhwystrau metel."
Roedd y digwyddiad gwaethaf i'w weld yn neuadd y Bataclan, yn nwyrain y ddinas, ble'r oedd dynion arfog wedi cymryd gwystlon yn ystod cyngerdd roc.
Mae Jonathan Hill, o Gaerdydd, a oedd hefyd yn agos i neuadd y Bataclan, wedi disgrifio gweld "Samariad Trugarog" yn sefyll yn y stryd ac yn gweiddi ar bobl i fynd dan do.
"Clywais dair ergyd wahanol," meddai. "Fe welais i rywun yn cwympo i'r llawr."
Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi disgrifio'r ymosodiadau fel "gweithred o ryfel".
COBRA
Fe ymunodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, â phwyllgor argyfwng COBRA llywodraeth Prydain fore Sadwrn.
"Ry'n ni'n sefyll mewn undod gyda phobl Ffrainc heddiw yn dilyn y digwyddiadau dychrynllyd ym Mharis," meddai.
"Ni chafodd hyn ei wneud yn enw unrhyw grefydd, cafodd ei wneud yn enw terfysgaeth."
"Ry'n ni'n gadarn ac yn unedig yn ein hymrwymiad i amddiffyn pobl y wlad yma, ac ein ffordd o fyw."
Fe gadarnhaodd hefyd fod lefel diogelwch y DU yn aros yn uchel, ac roedd yn annog pawb i "aros yn wyliadwrus".
Cydymdeimladau
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi anfon ei chydymdeimlad at bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiadau, ac wedi galw am dawelwch yn y ddinas a ledled y byd yn wyneb y digwyddiadau.
Dywedodd bod y gyflafan yn "ddigwyddiad trasig ac ofnadwy sydd yn amlwg wedi ei fwriadu i godi braw a dychryn ymysg poblogaeth Ffrainc".
"Yng ngoleuni'r ymosodiadau hyn ar bobl ym Mharis, safwn yn unedig gyda phawb yn yr holl gymunedau sydd y mae'r gweithredoedd treisgar enbyd hyn wedi effeithio arnynt," meddai.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod wedi cael braw pan glywodd am y digwyddiadau.
"Roedd hyn yn beth ofnadwy, ymosodiadau creulon gan bobl sy'n amlwg ddim yn gweld gwerth i fywyd," meddai.
Mae Cyngor Mwslemiaid Cymru wedi datgan eu cydymdeimlad, gan ddweud "nad oes unrhyw beth yn Islamaidd" am y rhai a gyflawnodd yr ymosodiadau, gan eu disgrifio fel "gweithredoedd mileinig".