Cadarnhau gwerthu safleoedd BBC yn Llandaf
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad gan BBC Cymru fod ei safleoedd yn Llandaf wedi eu gwerthu i gwmni datblygu tai Taylor Wimpey.
Bydd gwerthu'r safleoedd yn helpu'r BBC i ariannu'r ganolfan ddarlledu newydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd ac mae disgwyl i'r symud hwnnw ddigwydd yn ystod 2019.
Mae yna fwriad i adeiladu 400 o gartrefi ar y safleoedd yn Llandaf, ar ôl i Taylor Wimpey gael Caniatâd Cynllunio Amlinellol yn ddiweddar.
Mae'r cwmni'n amcangyfrifir y bydd tua 100 o swyddi adeiladu'n cael eu creu a thua 300 arall yn y gadwyn gyflenwi yn ystod datblygu'r safleoedd.
Dywedodd Gareth Powell, Prif Swyddog Gweithredol BBC Cymru:
"Tra'n bod yn gadael Llandaf gydag atgofion melys dros 50 mlynedd, r'yn ni'n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous yn y Sgwâr Canolog, ble byddwn yn gobeithio gwasanaethu ein cynulleidfaoedd am ddegawdau i ddod."