Wedi'r Storm

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dydw i ddim am gwestiynu cymhellion Aelodau Seneddol wnaeth bleidleisio'r naill ffordd neu'r llall ynghylch bomio Syria neithiwr yn ormodol. Eto i gyd, rwy'n sicr bod pob gwleidydd gwerth ei halen wedi cadw un llygad ar ei ddyfodol ei hun wrth benderfynu sut i fwrw ei bleidlais.

Mae hynny'n arbennig o wir am aelodau Llafur o Gymru oherwydd y newid ffiniau sydd i ddod yn etholiad cyffredinol 2020. Fe fydd y newidiadau hynny yn golygu y bydd y nifer o seddi yng Nghymru yn gostwng o'r deugain presennol i naw neu ddeg ar hugain. Dyw'r union nifer ddim yn sicr eto ond beth bynnag sy'n digwydd fe fydd sawl aelod seneddol Llafur yn gorfod cystadlu yn erbyn cymydog er mwyn sicrhau enwebiad.

Nawr meddyliwch am sefyllfa aelod seneddol oedd rhwng dau feddwl ynghylch y bomio neithiwr ac yn ystyried cefnogi cynlluniau'r llywodraeth. Mae'n anodd credu na fyddai'n cymryd effaith cefnogi'r bomiau ar ei siawns o gael ei enwebu i ystyriaeth - yn enwedig os oedd e'n debyg o orfod cystadlu yn erbyn aelod seneddol arall oedd yn gwrthwynebu mynd i ryfel. Gan bwyll, bois bach.

Gadewch i ni edrych felly ar ffawd debygol y pedwar AS Llafur wnaeth gefnogi'r llywodraeth neithiwr os ydy newidiadau 2020 rhywbeth yn debyg i'r argymhellion a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ffiniau yn 2012 ond na chafodd eu gwireddu.

Does gan Stephen Doughty fawr o le i boeni. Mae poblogaeth ei etholaeth yn cynyddu'n gyflym ac mae'n annhebyg y bydd yna newid sylweddol i'r ffiniau. Mae Chris Bryant a Wayne David yn ddynion ffodus hefyd. Yn y ddau achos yna mae eu hetholaethau yn debyg o gael eu huno gyda rhannau o etholaethau lle mae'r aelodau bron yn sicr o ymddeol y tro nesaf - Cwm Cynon yn achos Mr Bryant, Gorllewin Casnewydd yn achos Mr David. Mae a fyddai Mr David wedi cefnogi'r bomio pe bai Paul Flynn yn ddyn iau yn gwestiwn gwerth ei ofyn.

Mae sefyllfa Susan Elan Jones yn fwy cymhleth na'r tri arall. Fe fydd y rhan fwyaf o'u hetholaeth yn cael ei thraflyncu yn 2020 gan sedd newydd Dinbych a Gogledd Maldwyn sydd ar yr olwg gyntaf yn dir digon diffrwyth i Lafur. Fe fydd yn rhaid i Ms. Jones chwilio am nyth newydd a gallasai hynny brofi'n anodd iddi yn sgil neithiwr.

Mae penderfyniad un aelod seneddol arall yn werth ei ystyried sef un y Democrat Rhyddfrydol, Mark Williams, aelod Ceredigion, wnaeth bleidleisio yn erbyn ei blaid ei hun i wrthwynebu'r bomio. Fe wnes i gellwair neithiwr bod Henry Richard o bosib yn edrych dros ei ysgwydd wrth iddo bleidleisio ond unwaith yn rhagor dyw ystyriaethau etholaethol ddim yn amherthnasol.

Fel y sedd bresennol, fe fydd etholaeth newydd Ceredigion a Gogledd Penfro yn un lle mae 'na lwyth o stiwdants a lle mae traddodiadau anghydffurfiol a pheth dylanwad o hyd. Beth bynnag yw rhinweddau neu ffaeleddau Mr Williams mae'n ddyn sy'n nabod ei etholaeth. Wedi'r cyfan, mae e yna o hyd ac fe fydd pleidlais neithiwr yn gwenud dim byd ond lles i'w obeithion y tro nesaf.