Eryri'n Warchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
VenusFfynhonnell y llun, Keith O'Brien

Bydd Eryri yn cael ei ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol swyddogol yn ddiweddarach.

Mae hynny'n gydnabyddiaeth ar gyfer ardaloedd gydag amgylchfyd nos eithriadol, ac yn golygu y bydd camau yn cael eu cymryd i'w amddiffyn.

Dyma fydd yr ail ardal yng Nghymru i gael ei ddynodi, ar ol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2013.

Y mannau eraill sydd wedi eu dynodi yw:

  • Aoraki Mackenzie (Sealand Newydd)

  • Parc Cenedlaethol Exmoor (Lloegr)

  • Kerry (Iwerddon)

  • Mont-Mégantic (Québec)

  • Gwarchodfa Natur NamibRand (Namibia)

  • Pic du Midi (Ffrainc)

  • Rhön (Yr Almaen)

  • Westhavelland (Yr Almaen)

Ffynhonnell y llun, Visit Snowdonia

Yn dilyn y cyhoeddiad, Cymru sydd a'r ganran fwyaf o'i hawyr wedi ei ddynodi'n warchodfa o holl wledydd y byd.

Bydd yr ardal nawr yn cael ei warchod, er mwyn amddiffyn bywywd gwyllt o fewn y parc.

Ond bydd y cyhoeddiad hefyd yn atyniad i ymwelwyr a seryddwyr.

'Gwarchod yr amgylchedd'

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae derbyn y dynodiad hwn yn newyddion arbennig o dda i drigolion, busnesau, ymwelwyr a bywyd gwyllt Eryri.

"Yn anffodus, mae'r cyfle i fwynhau awyr a sêr y nos yn prinhau, mae patrymau byw rhai o greaduriaid y nos yn cael eu heffeithio a chan fod llygredd golau ar gynnydd, mae'n cyfrannu at y dirywiadau hyn.

"Ond, gyda'r dynodiad hwn, gall bywyd gwyllt yr ardal wella, bydd ansawdd yr amgylchedd yn cael ei warchod, bydd atyniad naturiol newydd i ddenu ymwelwyr newydd i Eryri ar gyfnodau tawel o'r flwyddyn, bydd yr economi leol yn gwella a bydd awyr dywyll Eryri yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yng nghanolfan gymunedol Abergwynolwyn.