Llywydd newydd i'r Urdd

  • Cyhoeddwyd
Dan RowbothamFfynhonnell y llun, Urdd

Dan Rowbotham o Langeitho ger Tregaron fydd Llywydd yr Urdd yn 2016.

Yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant mae Dan ac yn Gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, fforwm ieuenctid cenedlaethol yr Urdd, ers Ionawr 2015.

Mae'r Urdd wedi bod yn rhan ganolog o'i fywyd erioed, gyda'i fam yn arfer gweithio yn swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth. Roedd yn arfer cystadlu yn yr Eisteddfod yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, ac yn mynd i'r gwersylloedd yn aml gyda chriw'r rhanbarth.

Bellach mae'n byw yng Nghaerfyrddin tra'n astudio yno, ac yn cydredeg Aelwyd Myrddin ac Aelwyd y Drindod.

Mae'n aelod o Fwrdd Syr IfanC ers iddo gael ei sefydlu yn Ionawr 2013.

'Newid y drefn'

Dywedodd Dan: "Penderfynodd Cyngor yr Urdd ym mis Mehefin 2015 y bydden nhw'n newid y drefn o ran dewis llywyddion - ac y byddai'r swydd bellach yn mynd law yn llaw gyda Chadeiryddiaeth Bwrdd Syr IfanC, felly gofynnwyd i mi barhau yn y fy swydd fel Cadeirydd yn 2016.

"Dwi'n falch iawn fod y cyngor wedi sylweddoli y dylai'r llywydd fod yn aelod presennol o'r Urdd, sy'n cynrychioli aelodau o bob oed.

"Rwy'n edrych ymlaen hefyd i gwrdd â'r prif weithredwr newydd ac am geisio sicrhau y bydd yn sylweddoli pa mor bwysig yw llais yr aelodau.

"Rwyf hefyd am geisio parhau gyda'r gwaith dyngarol mae Rhun Dafydd, Llywydd 2015, wedi bod yn ei wneud - falle mai un o'r pethau cyntaf yr hoffwn i edrych arno yw sefyllfa'r ffoaduriaid a beth y gallwn ni fel mudiad ei wneud i helpu."