Rhodri Morgan wedi marw yn 77 oed

  • Cyhoeddwyd
rhodri morgan
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rhodri Morgan yn brif weinidog yn 2000

Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi marw yn 77 oed.

Bu'n Brif Weinidog am bron i 10 mlynedd, cyn ildio'r awenau ym mis Rhagfyr 2009.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi eu galw i ddigwyddiad yn ardal Gwenfô, Bro Morgannwg am tua 17:00 ddydd Mercher.

Aeth parafeddygon a'r heddlu i'r digwyddiad ond bu farw Mr Morgan yno.

'Ffigwr tadol'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae Cymru, nid yn unig wedi colli gwleidydd mawr, ond mae wedi colli ffigwr tadol.

"Fe wnaeth gymaint i frwydro dros ddatganoli ac yna sicrhau fod y sefydliad yn ennill ei le yng nghalonnau pobl ein gwlad.

"Fe fydd degawd gyntaf datganoli, a'r broses o wneud penderfyniadau a dewisiadau penodol i Gymru yn cael eu cysylltu am byth gyda'i arweinyddiaeth ef."

Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi atal eu hymgyrchu etholiadol am y diwrnod fel arwydd o barch.

Disgrifiad,

Roedd cyn brif weinidog Cymru yn 'ffigwr hanesyddol' medd Vaughan Roderick

Er ei fod yn fwyaf adnabyddus am fod yn Brif Weinidog Cymru, bu Rhodri Morgan hefyd yn Aelod Seneddol Llafur amlwg iawn yn ystod y 1980 a'r 90au.

Yn gyn fyfyriwr o Brifysgolion Harvard a Rhydychen, bu'n was sifil cyn iddo fentro i'r byd gwleidyddol yn broffesiynol.

Yn 47, cafodd ei ethol yn AS dros etholaeth Gorllewin Caerdydd yn 1987.

Roedd yn ffigwr poblogaidd pan oedd Llafur yn wrthblaid yn San Steffan ac yn dilyn y refferendwm ar ddatganoli, fe heriodd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Ron Davies, am yr hawl i arwain Llafur yn yr etholiadau.

Fe gafodd ei drechu gan y gŵr sy'n cael ei adnabod yn "bensaer datganoli Llafur", ond yn dilyn ymddeoliad cynnar Mr Davies, daeth y cyfle eto i Mr Morgan fynd am yr arweinyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Morgan ac Alun Michael wedi cyfarfod yn Transport House yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2000

Pan ofynnodd y cyflwynydd Jeremy Paxman ar raglen Newsnight y BBC 'nôl yn 1998, os yr oedd yn bwriadu sefyll, atebodd: "Ydy hwyaden ungoes yn nofio mewn cylchoedd?"

Cyn Weinidog y Swyddfa Gartref, Alun Michael, gafodd ei ethol yn arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn dilyn ymddiswyddiad Ron Davies, ac roedd yn rhaid i Rhodri Morgan aros ei dro unwaith eto.

Roedd rhai yn honni mai pleidleisiau bloc yr Undebau a sicrhaodd fuddugoliaeth i Mr Michael ar draul y dewis poblogaidd.

Aelod Seneddol

Cafodd Mr Morgan ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 1999 - yr unig etholaeth yng Nghymru lle cynyddodd Llafur eu pleidlais.

Dan arweiniad Alun Michael, methodd Llafur â sicrhau mwyafrif yn etholiadau'r Cynulliad ac o'r diwedd fe gafodd freuddwyd Rhodri Morgan o arwain y blaid ei gwireddu yn 2000.

Aeth ati i sefydlu delwedd fwy traddodiadol i'r Blaid Lafur yng Nghymru, drwy osod "dŵr coch clir" rhwng y Blaid yng Nghymru a Llafur Newydd.

Cafodd yr agenda hwn ei symboleiddio gan bolisi ei lywodraeth i gynnig presgripsiwn am ddim.

Roedd Rhodri Morgan hefyd yn barod i groesawu gwleidyddiaeth glymbleidiol yn y Cynulliad er lles polisïau'r Blaid Lafur.

'Cyfrinach waethaf Cymru'

Ffurfiodd lywodraeth gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl etholiad 2003, a Phlaid Cymru yn 2007.

Er yr oedd hi'r "gyfrinach waethaf yng Nghymru" y byddai'n gadael y brif swydd o amgylch ei ben-blwydd yn 70 oed ar 29 Medi 2009, fe gadwodd pawb yn y tywyllwch hyd y funud olaf.

Roedd llawer yn disgwyl iddo wneud y datganiad yn ei araith ddiwetha'n Brif Weinidog i gynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton ond roedd Mr Morgan yn awyddus i wneud hyn ar dir Cymru.

Yn hytrach na hynny, cymerodd y cyfle i ailgasglu'r blaid yn ystod cyfnod a arweiniodd yn y pen draw at golled yn etholiad cyffredinol 2010.

Dywedodd - yn ei arddull nodweddiadol: "Rwy'n gwybod ein bod ni mewn cyfnod anodd ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi colli'r rysáit o gyfuno pys slwtsh hen Lafur a gwacamole Llafur Newydd dros dro."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Serch hynny, fe gymerodd ei sesiwn ddiwethaf yn y Senedd fel Prif Weinidog ar 8 Tachwedd 2010 gan adael y ffordd i'w olynydd Carwyn Jones.

Symudodd i'r meinciau cefn a pharhau i gynrychioli pobl Gorllewin Caerdydd tan 2011.

Mae'n gadael ei wraig, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, a'u tri plentyn.

'Tad datganoli'

Dywedodd Arglwydd Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru: "Mae fy nghydymdeimlad gyda Julie a'r teulu, mae hyn yn sioc fawr.

"Fel Prif Weinidog, Rhodri oedd tad datganoli ac yn ffigwr tadol i'r genedl.

"Fe wnaeth fwy nag unrhyw un i sefydlogi datganoli a sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei dderbyn fel sefydliad.

"Roedd e'n Gymro i'r carn."

Daeth teyrnged gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones wrth iddi drydar: "Tristwch mawr i glywed am farwolaeth Rhodri Morgan. Prif Weinidog a roddodd ddechrau cadarn i'n Senedd.

"Dyn a garodd ei wlad a'i phobl."

Roedd yna drydar hefyd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Andrew RT Davies.

"Newyddion ofnadwy am Rhodri Morgan - cawr gwleidyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru. Mae ein meddyliau gyda Julie a'r teulu ar yr amser anodd yma."

Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru fod Rhodri Morgan yn ddyn "oedd yn cael ei barchu ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac fe wnaeth arwain Cymru gyda chlod yn ystod cyfnod hanfodol yn ein hanes".

Yr Arglwydd German oedd y dirprwy Brif Weinidog pan fu Llafur mewn clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2000-2003.

"Mae Cymru wedi colli gwleidydd mawr heno. Mae ganddo le enfawr o ran datganoli yng Nghymru. Roedd yn wrthwynebydd cryf ond yn gyfaill mawr."