Tresbasu a fandaliaeth ar reilffordd Blaenau Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd
Blaenau

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dweud bod eu swyddogion yn bwriadu gweithredu ar frys yn dilyn adroddiadau o dresbasu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn gorsaf drenau yng Ngwynedd.

Yn dilyn adroddiadau am fandaliaeth a phobl yn croesi'r cledrau yng ngorsaf Blaenau Ffestiniog, mae heddweision wedi bod yn patrolio'r ardal dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd Sarjant Gemma Jones: "Rydym wedi derbyn adroddiadau pryderus iawn yn ddiweddar am bobl yn tresbasu ar y rheilffordd ac yn cyflawni fandaliaeth.

"Yn rhyfeddol, mae rhieni wedi eu gweld yn croesi'r rheilffordd gyda phramiau. Does dim angen dweud pa mor anhygoel o beryglus yw hyn ac mae'n rhyfeddol fod pobl yn fodlon peryglu popeth drwy groesi'r rheilffordd, ac mae gwneud hynny gyda babi yn anghredadwy.

Yn dilyn yr adroddiadau am dresbasu, mae cwmni Network Rail wedi gorfod gweithredu ar frys. Dywedodd Matthew Swidenbank o'r cwmni: "Mae tresbasu ar y rheilffordd yn hynod o beryglus. Byddai rhai pobl yn meddwl nad ydi cymryd llwybr byr ar draws y traciau yn risg go iawn ac fe fydd modd iddyn nhw symud o ffordd y tren, ond mae ffigurau marwolaethau'n dangos nad yw hyn yn wir."

Mae Network Rail wedi gorfod cau giat ym Mlaenau Ffestiniog o achos nifer o adroddiadau o dresbasu, ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a fandaliaeth.

'Peryglu bywyd'

"Mae pobl yn peryglu eu bywydau ac rydym yn poeni'n fawr y bydd rhywun yn cael niwed difrifol, a dyna pam rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cwtogi ar nifer yr achosion", meddai Mr Swidenbank.

Ers i'r giat gael ei chau mae Network Rail yn dweud bod y clo wedi cael ei ddifrodi.

Ychwanegodd Sarjant Jones: "Ynghyd ag adroddiadau o dresbasu, sydd o bryder mawr, rydym hefyd yn deall bod pobl ifanc wedi difrodi cyfarpar yr orsaf a gwelyau blodau gafodd eu gosod gan blant ysgol leol. Alla i ddim ond dychmygu pa mor drist yw y plant o weld eu gwaith caled wedi ei ddifrodi gan leiafrif di-feddwl.

"Er mwyn taclo'r hyn sy'n digwydd ym Mlaenau Ffestiniog, rydym angen cymorth gan y cyhoedd. Rwyf wedi fy argyhoeddi fod nifer o'r digwydiadau ddim yn cael eu hadrodd, felly fe hoffwn apelio ar bobl i gysylltu os ydyn nhw'n gweld neu glywed rhywbeth maen nhw'n meddwl y dylie ni wybod amdano."

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 0800 40 50 40 neu anfon neges testun at 61016. Mae modd ffonio Taclo'r Taclau hefyd ar 0800 555 111.