Armes Cymru

Un o oblygiadau cynnal dau etholiad pwysig o fewn blwyddyn i'w gilydd yw nad oes fawr o ddewis gan newyddiadurwyr gwleidyddol ond cymryd talp o wyliau dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Unwaith mae'r ffenest fach yna wedi ei chau - pennau lawr amdani ac ymlaen a ni ffwl pelt tan fis Mai.

Ond cyn i ni ddechrau beth am ychydig bach o ddarogan? O ddyrchafu fy hun i fod yn rhyw Fyrddin Emrys cyfoes beth sydd gan Armes Cymru i ddweud am 2016?

Y geiriau cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw "och, gwae ni!" Medraf lunio restr faith o resymau i esbonio pam y dylai pob un o'r pleidiau, ac eithrio Ukip, efallai, ddisgwyl gwneud yn wael yn etholiad 2016.

Dyw e ddim yn bosib i Lafur Cymru ynysu ei hun yn gyfan gwbwl o'r hyn sy'n digwydd i'r blaid ar lefel Brydeinig ond dyw pethau ddim yn argoeli'n wych i'r Ceidwadwyr chwaith.

Yn draddodiadol mae etholwyr yn defnyddio etholiadau ail radd i gosbi pwy bynnag sydd mewn grym yn ganolog. Mae hynny'n wir am bob gwlad sydd â system seneddol ffedral neu led ffederal. Does dim rheswm dros gredu bod Cymru a Phrydain fod yn wahanol.

Os nad ydy Llafur mewn sefyllfa i elwa o'r bleidlais brotest, pwy sydd mewn sefyllfa i wneud? Plaid Cymru yw'r ateb amlwg, ond does dim arwydd bod hynny'n digwydd hyd yma. O leiaf, yn wahanol i'r Democratiaid Rhyddfrydol, dyw'r bwytwr pechodau ddim eto'n cnocio ar ddrws y Cenedlaetholwyr!

Y broblem, wrth gwrs yw bod pob etholiad yn 'zero sum game'. Dyw e ddim yn bosib i bawb golli ac mae'r system etholiadau yn cynnig rhai posibiliadau diddorol.

I fi, y rhanbarth fwyaf diddorol ym mis Mai yw'r gogledd lle mae 'na bosibilrwydd y gallasai Llafur wynebu chwalfa go iawn. Mae modd dychmygu sefyllfa lle'r oedd Llafur yn colli dwy neu dair sedd yn y rhanbarth hwnnw heb gael ei digolledi gan seddi rhestr. Fe fyddai colledion felly, ynghyd ac un neu ddau arall mewn llefydd fel Gogledd Caerdydd a Llanelli, yn mynd â ni'n agos iawn at y trothwy lle na fyddai gan Carwyn Jones fawr o ddewis ond ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru gan adael y dasg o ffurfio llywodraeth i rywun arall.

Mae lle yn union mae'r trothwy hwnnw yn dipyn o destun trafod yn y Bae ac mae'r rhan fwyaf o'r farn y byddai'n rhaid i Carwyn fynd pe bai nifer yn seddi Llafur yn gostwng i rywle o gwmpas pump ar hugain. Wedi'r cyfan, roedd hyd yn oed Alun Michael yn gallu sicrhau 26 sedd i Lafur a digon byr fu ei deyrnasiad yntau!

Pwy fyddai'n ei olynu? Wel unrhyw un ond Vaughan yw barn sawl aelod Llafur - ac nid cyfeirio at Olygydd Materion Cymreig y BBC y maen nhw! Vaughan Gething yw'r ffefryn o hyd, dybiwn i, ond rwy'n amau efallai bod Huw Irranca yn dechrau gloywi ei iaith!