Momentwm a'r groesfan sebra

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae gan aelodau'r blaid Lafur ddigon o bethau i grafu eu pennau yn eu cylch ar hyn o bryd ond un o'r pynciau mwyaf dadleuol sy'n wynebu'r blaid yw union rôl a natur y grwp 'Momentum' wnaeth dyfu allan o ymgyrch Jeremy Corbyn i fod yn arweinydd.

Ydy hwn, fel mae ei gefnogwyr yn mynnu, yn grŵp o aelodau Llafur teyrngar sydd am gynnal breichiau Mr Corbyn neu ydy amheuon eraill bod hon yn blaid o fewn plaid, sydd â'u bryd ar buro'r rhengoedd seneddol, yn agosach at y gwir?

Yr hyn sy'n wahanol ynghylch Momentum o'i gymharu â grwpiau eraill sy'n bodoli o fewn y blaid Lafur yw ei fod yn hawlio ei fod yn siarad ar ran mwyafrif yr aelodau. O gofio maint buddugoliaeth Jeremy Corbyn mae'n ddigon posib bod hynny'n wir. Yn yr ystyr yna, a'r ystyr yna'n unig, Momentum yw'r Bolsieficiaid tra bod Progress a thrwch y blaid seneddol yn Fensieficiad. Mae pawb yn gwybod beth oedd diwedd y stori fach yna!

Mae'n rhaid mynd yn ôl i'r 1960au i ddod o hyd i grŵp cyffelyb oddi mewn i unrhyw un o'r pleidiau ac o fewn y blaid Geidwadwol y mae ei ganfod.

Y Freedom Group oedd y grŵp hwnnw ac ar ei anterth roedd ganddo 200,000 o aelodau ac yn cynnal papur dyddiol y 'New Daily'.

Mae darllen amcanion y grŵp heddiw yn brofiad rhyfedd gyda rhai, megis dileu'r cyfyngiadau ar oriau darlledu, yn ymddangos yn ddigon synhwyrol ac eraill yn gwbwl boncyrs. Fy ffefryn personol yw'r awgrym y dylai streipiau croesfannau sebra rhedeg o'r naill ochor o'r ffordd i'r llall yn hytrach na bod yn gyfochrog a'r palmentydd. Na, dydw i ddim yn gwybod pam.

Ond casineb tuag at yr undebau llafur, yr economi gymysg a rhyddfrydiaeth gymdeithasol y 1960au oedd yn gyrru'r grwp mewn gwironedd - agenda oedd yn wrthun i arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar y pryd.

Methiant llwyr fu ymdrechion y Freedom Group i ddylanwadu ar bolisïau neu arweinyddiaeth y blaid Geidwadol yn ystod cyfnod eu bodolaeth. Roedd strwythurau'r blaid yn canoli'r cyfan o'r grym yn nwylo'r blaid seneddol a'i harweinydd. Roedd y Freddom Group wastod ar y tu fas felly.

Ond arhoswch am eiliad. Ac eithrio'r busnes croesfannau sebra yna mae polisiau'r Freedom Group yn ymddangos yn rhyfeddol o debyg i agenda Thatcheriaid y 1980au. Yn wir mae modd dadlau bod y grŵp wedi braenaru'r tir ar gyfer beth oedd i ddod.

Mae hynny'n dod a ni at ddamcaniaeth 'Ffenest Overton' - y syniad bod yna, ar unrhyw un adeg, ystod o bolisïau sy'n cael eu hystyried yn rhesymol a chymedrol gan yr etholwyr. Mae modd i wleidydd ennill etholiad trwy hyrwyddo polisïau sydd ar y chwith neu'r dde oddi mewn i'r ffenest ond nid trwy wyntyllu syniadau sydd y tu hwnt i'w ffiniau.

Yr hyn sy'n ddifyr am Ffenest Overton yw ei bod hi'n symud dros amser ac fe lwyddodd y Freedom Group ac eraill i'w symud i'r dde yn y chwedegau a'r saithdegau. Canlyniad hynny oedd bod Thatcheriaeth oddi mewn i'r ffenest ym Mhrydain tra bod bron unrhyw beth i'r chwith o gredoau Llafur newydd yn cael ei ystyried yn eithafol.

Heb os un o obeithion Momentum yw symud y ffenest yn ôl i'r chwith ac os ydy'r grŵp yn llwyddo gwneud hynny gallai'r effaith ar ein gwleidyddiaeth bara am gyfnod llawer hwy nac arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Yr unig beth sy'n fy mhoeni yw nad yw'r grŵp eto wedi datgan safbwynt eglur ynghylch croesfannau sebra!