Dur: 'Dwyn i gof y dyddiau duon'

  • Cyhoeddwyd
DurFfynhonnell y llun, Getty Images

Mi oedd y Cynghorydd Gareth Roberts yn gweithio yn yr adran gyfrifiadurol yn Shotton rhwng 1970 ac 1998.

Wrth i Tata gyhoeddi ddydd Llun y byddai cannoedd o swyddi yn cael eu colliym Mhort Talbot mi ofynnodd Cymru Fyw iddo roi ei argraffiadau o'r sefyllfa.

"Mae'r trafferthion presennol yn y diwydiant dur yn dwyn i gof y dyddiau duon cynt yn y diwydiant hwnnw yn gyffredinol ac i ni yn Shotton yn arbennig. Mae'n meddyliau a'n teimladau efo'r rhai sydd o dan gwmwl yn enwedig ym Mhort Talbot.

Mae Port Talbot am golli ryw 750 o swyddi uniongyrchol yn y dyfodol agos. Amcangyfrif mewn diwydiant o'r fath fod ryw ddau neu dri o swyddi anuniongyrchol yn cael eu colli am bob un swydd yn y diwydiant ei hun. Felly rydyn ni'n son am ryw ddwy fil o swyddi o leiaf.

'Ergyd drom'

Mae'r swyddi sy'n cael eu colli yn swyddi da sydd yn talu yn dda, felly bydd yr ergyd yn drom iawn, nid yn unig ar y teuluoedd, ond yn y gymdogaeth gyfan. Rydym yn cofio am y cymylau duon aeth ar draws Glannau Dyfrdwy dros Treffynon a'r Fflint efo cau Courtaulds ac yn enwedig efo cymunedau'r pyllau glo mewn cymaint o ardaloedd, effeithiau sydd dal i'w gweld rwan.

Fe allwch ddweud ein bod ni wedi bod yn ffodus yn y gogledd ddwyrain, efo llewyrch a sefydlogi cwmni Airbus a'r gallu i ddenu sawl diwydiant arall yma gan gadw rhyw gymaint o'r diwydiant dur, oherwydd y gallu i greu diwydiant dur arbenigol. Mae rhywun ond yn gobeithio mai rhywbeth dros dro yw hyn ac y bydd dyfodol i'r diwydiant ym Mhort Talbot a llefydd eraill ymhen amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Does dim modd anwybyddu'r sefyllfa yn China ar hyn o bryd, ond beth fydd y sefyllfa economaidd ymhen ryw flwyddyn neu ddwy? A fydd economi'r byd ar i fyny yn golygu mwy o alw am ddur? Diddorol oedd gweld bod economi China yn crebachu a gweld lluniau o weithfydd dur yno wedi eu cau a gymaint o ddur a gynhyrchwyd yn mynd yn wastraff.

Rydym wedi bod yn ymwybodol o'r argyfwng yma ers peth amser. Does dim modd diystyru'r ffaith bod Port Talbot yn colli un miliwn o bunnoedd y dydd ond lle mae pawb wedi bod tan rwan?

Yn ddiau, bydden ni wedi disgwyl i Ewrop wneud cynlluniau i wynebu'r bygythiad o China er mwyn amddiffyn y diwydiant trwy Ewrop gyfan - a dilyn esiampl Canada a'r Unol Daleithiau.

Bydden ni wedi disgwyl i San Steffan a Chaerdydd helpu gyda'r costau ynni - y mwyaf drud yn Ewrop. Y costau yma oedd y prif rheswm i Alwminiwm Môn gau.

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr dur yn gofyn i Lywodraeth San Steffan ym mis Hydref ymyrryd

Hefyd bydden wedi disgwyl am gymorth hefyd efo'r trethi busnes. O leiaf pan mae gweithwyr yn cael eu cyflogi maen nhw'n talu treth incwm ac yn gwario eu harian yn yr economi er mwyn creu mwy o gyfoeth.

Yr ydym yn aros am y penderfyniad mawr o ganolfan Tata ym Mwmbai. Maen nhw wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant yma. Bydden nhw'n sicr am gael gwerth eu buddsoddiad.

Os bydd y toriadau presennol yn golygu y bydd dyfodol i'r diwydiant yn yr hir amser yna hwyrach y cawn ochenaid o ryddhad. Os na, yna Duw a'n helpo!

Mae rhywun ond yn rhy ymwybodol o'r ffordd yr aeth Llywodraeth San Steffan ati i ddiogelu'r banciau. Mae'n hen bryd iddyn nhw sylweddoli pwysigrwydd y diwydiant dur a bod yn barod i wneud be' fedran nhw i ddiogelu y diwydiant pwysig yma."