UKIP: Ffrae am ddewis ymgeiswyr

  • Cyhoeddwyd
Kevin Mahoney
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Mahoney yn ymgyrchu cyn Etholiad Cyffredinol 2015

Mae aelod amlwg o UKIP yng Nghymru wedi beirniadu ffrindgarwch (cronyism) o fewn y blaid mewn ffrae am ddewis ymgeiswyr i etholiad y Cynulliad.

Dywedodd Kevin Mahoney y bydd yn gadael UKIP os fydd y cyn aelodau seneddol Ceidwadol Neil Hamilton a Mark Reckless - sydd bellach yn aelodau o UKIP - yn cael eu dewis i sefyll.

Nid yw'r blaid wedi cyhoeddi eu hymgeiswyr eto, ond fe ddywed Mr Mahoney ei fod wedi derbyn sêl bendith fel prif ymgeisydd rhestr Canol De Cymru gan bwyllgor cenedlaethol y blaid.

Bydd cyfarfod arall o'r pwyllgor hwnnw ddydd Gwener.

'Dim cysylltiad'

Dywedodd Mr Mahoney nod oes gan Mr Reckless, Mr Hamilton na phennaeth cyfryngau UKIP yng Nghymru, Alexandra Phillips, "unrhyw gysylltiad gwleidyddol â Chymru".

Yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd, fe safodd Mr Mahoney fel ymgeisydd UKIP ym Mro Morgannwg.

Ychwanegodd bod Ms Phillips wedi cael ei dewis fel ymgeisydd ar restr ranbarthol, ond pe bai Mr Hamilton a Mr Reckless hefyd yn cael eu dewis "fydd gen i ddim byd i wneud gyda'r blaid wedyn".

"Mae'r bobl yma i gyd wedi cael eu gwthio ar Gymru," meddai.

"Roedd gennym un cyfle i dorri cwys newydd yn y Cynulliad, ac mae gennym ddigon o ymgeiswyr sy'n fwy nag abl.

"Yn anffodus mae'n ymddangos bod y blaid wedi disgyn am yr un fath o ffrindgarwch yw wyf yn ei gasáu mewn pleidiau eraill.

"Dydw i ddim am i'r bobl yma fod yn gwneud cyfreithiau yng Nghymru."

Mae polau piniwn yn awgrymu y gallai UKIP ennill seddau yn y Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai.

Gwrthododd UKIP ymateb i sylwadau Mr Mahoney heblaw cadarnhau bod cyfarfod o'r pwyllgor gweithredol cenedlaethol ddydd Gwener.