Paradwys y Bardd
- Cyhoeddwyd
- comments
Pethau rhyfedd yw anthemau cenedlaethol ac ar y cyfan mae'n talu i beidio rhoi gormod o sylw i'r geiriau. Mae 'na rywbeth anghymwys wedi ei gladdu yn rhan fwyaf ohonyn nhw. Dyw'r Almaenwyr ddim yn canu pennill cyntaf Das Lied dêr Deutschen - hwnnw sy'n dyrchafu Deutschland Uber Alles ac mae'r Saeson yn tueddu cadw draw o'r pennill yna ynghylch General Wade a'r 'rebellious Scots'.
Dyw hyd yn oed Hen Wlad fy Nhadau ddim yn gwbl ddi-fai. Rwy'n sicr nad fi yw'r unig un sy'n teimlo bod yna rywbeth braidd yn amrwd ynghylch y pennill olaf a'r cyfeiriad yna at 'erchyll law brad'.
Ond mae 'na broblem fwy sylfaenol hefyd sef y gair 'tadau' yna yn y llinell gyntaf. Hyd y gwn i does neb wedi galw am ei newid eto - ond mae hynny'n saff o ddod.
Ar hyn o bryd mae mesur yn ymlwybro'i ffordd trwy senedd Canada i newid llinell yn fersiwn Saesneg yr anthem o 'True patriot love in all thy son's command" - i " True patriot love in all all of us command" er mwyn cydnabod nad dynion yn unig sydd wedi gwasanaethu eu gwlad. Hwn yw'r degfed tro i'r Senedd drafod y newid a'r tro hwn mae'n debyg o basio.
Mae'n hawdd dychmygu y ceir galwadau tebyg yng Nghymru yn hwyr neu'n hwyrach.
Ond pa air fyddai'n gymwys i gymryd lle 'tadau' yn y ganrif oleuedig hon? Mae 'cyndeidiau' yn rhannu'r un broblem a thadau a dyw 'rhieni' ddim yn cyfleu'r un ystyr rhywsut.
Efallai bod hi'n bryd i Gymru Fyw drefnu cystadleuaeth!