Trobwynt Aberfan
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n drychineb ysgwydodd y byd. Ar 21 Hydref 1966 cafodd 116 o blant a 28 oedolyn eu lladd pan lithrodd tomen lo anferth i lawr ochr mynydd Merthyr gan ddinistrio Ysgol Gynradd Pantglas ym mhentre' Aberfan.
Newidiodd bywydau sawl teulu mewn amrantiad yn ogystal â sawl un oedd yn dystion i'r gwaith o chwilio am gyrff y meirw. Yn eu plith roedd Geraint Stanley Jones, a oedd ar y pryd, yn newyddiadurwr ifanc gyda'r BBC.
Mewn cyfweliad emosiynol, yr olaf cyn ei farwolaeth ym mis Awst 2015, bu cyn-bennaeth BBC Cymru ac S4C yn hel atgofion am yr wythnos ddirdynnol yn Aberfan wedi'r drychineb.
Bydd y cyfweliad llawn i'w weld ar 'Cymoedd Roy Noble' ar S4C nos Sul 31 Ionawr.
'Yr alwad'
Roedd Geraint Stanley Jones yn aelod o dîm rhaglen 'Heddiw' y BBC pan ddaeth yr alwad i'r stiwdios yn Llandaf.
"Ro'n i yn y swyddfa am 10 o'r gloch y bore yn trafod rhaglen y dydd oedd yn mynd allan amser cinio," meddai. "Mi ddaeth yr alwad ac mi es i yn syth i Aberfan.
"Be' dwi'n gofio fwya' ydy'r tawelwch ofnadwy. Doedd 'na ddim symud, doedd na'm smic yn unman. Ro'dd y pwll glo oedd bron ynghanol y pentre wedi stopio'n llwyr.
"Doeddwn i ddim yn gw'bod ble roedd yr ysgol. Ond yn sydyn wrth fynd rownd y gongl, dwi'n gweld y domen 'ma a dim byd ond dynion yn crebachu ar y domen efo rhawiau a phiciau a'u dwylo."
Fe lwyddodd uned darlledu allanol y BBC i gysylltu gyda'r pencadlys yng Nghaerdydd, ond y cwestiwn mawr i Geraint Stanley Jones a'r gohebydd Owen Edwards oedd sut i gyfleu yr hyn yr oedd wedi digwydd.
"Plant oedden nhw, roedd e'n gwbl annisgwyl. Rwy'n cofio i Owen lwyddo i roi geiriau at ei gilydd trwy gyfeirio at y plant yn hytrach na'r achlysur mewn ffordd."
Trobwynt
Erbyn y p'nawn roedd aelodau'r cyfryngau Prydeinig wedi cyrraedd ynghyd â newyddiadurwyr o Lundain oedd yn cynrychioli'r wasg ryngwladol mewn gwledydd fel America a Siapan. Wedi iddyn nhw gyrraedd daeth Geraint Stanley Jones i drobwynt yn ei yrfa:
"Ro'n i ar y pryd ar fy ffordd i fod yn newyddiadurwr teledu, ond wedi iddo fo (Aberfan) ddigwydd, penderfynais i nad o'n i wedi fy nhorri allan i'r math yna o beth. Fedrwn i ddim bod yn ddigon gwrthrychol dwi'n credu.
"Trwy gydol yr wythnos ro'n i eisiau cydio mewn rhaw a gwneud rhywbeth nid jyst sefyll yn sôn amdano fo."
Yn ystod ei wythnos yn Aberfan roedd 'na achlysur arall fyddai'n golygu na fyddai Geraint Stanley Jones byth yn anghofio'r hyn ddigwyddodd i'r gymuned glos:
"Am bedwar o'r gloch ar y pnawn Gwener fe ge's i neges fod fy ail blentyn wedi ei geni.
"Dyma fi'n troi i lawr am Gaerdydd yn drewi o lwch y mynydd ac yn cydio yn fy mhlentyn. Mae pen-blwydd Siwan yn fwy na phen-blwydd yn dydi... mae'n gofadail."