Ymgeiswyr UKIP: Canghennau i 'wrthryfela'

  • Cyhoeddwyd
UKIPFfynhonnell y llun, PA

Bydd nifer o ganghennau lleol plaid UKIP yn bwriadu gwrthryfela os caiff ymgeiswyr y blaid o du allan i Gymru eu gorfodi arnyn nhw cyn etholiad y Cynulliad, yn ôl uwch lefarydd y blaid.

Daw hyn yn dilyn ffrae dros adroddiadau bod arweinwyr UKIP am weld y cyn ASau Ceidwadol, Neil Hamilton a Mark Reckless yn sefyll dros y blaid yn yr etholiad ym mis Mai.

Mae llythyrau yn gwrthwynebu hyn wedi eu hanfon at bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid cyn cyfarfod yn ddiweddarach ddydd Llun.

Mae BBC Cymru'n deall y gallai dwy gangen leol ildio i'r drefn sy'n cael ei argymell gan yr arweinyddion.

Mae disgwyl y bydd nifer o ganghenau lleol UKIP ar hyd a lled Cymru'n cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf, i drafod yr un pryderon, yn ôl llefarydd ar ran y blaid.

Mae rhai aelodau Cymreig wedi rhybuddio y gallai dewis ymgeiswyr o du allan i Gymru fod yn niweidiol.

Mark Reckless a Neil FarageFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mark Reckless a Neil Farage

Ym mis Ionawr, dywedodd cynghorydd UKIP, Kevin Mahoney y byddai'n gadael y blaid petai Mr Hamilton, Mr Reckless ag Alexandra Phillips yn cael eu dewis ar y rhestr ranbarthol, lle mae disgwyl i'r blaid ennill nifer o seddau.

Fe wnaeth ffynhonell o fewn y blaid ddweud yn ddiweddarach fod y pwyllgor gwaith yn "herio" arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, drwy wrthod cymeradwyo'r rhestr o ymgeiswyr oedd yn cael ei gynnig gan y blaid yng Nghymru.

Mae BBC Cymru yn deall bod cadeiryddion canghenau wedi ysgrifennu at y pwyllgor gwaith cenedlaethol yn honi bod rheolau'r blaid wedi eu torri yn y broses o ddewis ymgeiswyr.

Ddydd Llun mae'r pwyllgor gwaith yn cyfarfod am y trydydd tro mewn tair wythnos i drafod y mater.

Disgrifiodd llefarydd y blaid "anfodlonrwydd" gweithredwyr y blaid ar lawr gwlad, gan ychwanegu: "Os yw UKIP Cymru'n blaid o ddemocratiaeth leol - byddin y bobl os hoffech chi - sut allai gefnogi'r 'fix' yma gan y pwyllgor gwaith cenedlaethol a'r arweinyddiaeth?".

Doedd y blaid ddim yn gallu dweud pa bryd fyddai penderfyniad terfynol yn cael ei wneud o ran dewis ymgeiswyr.

Nathan Gill, arweinydd y blaid yng NghymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru