Noson yng Nghymru Fydd

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Stori fer yw hon. Dychmygol yw'r cymeriadau a'r sefyllfa. Efallai.

Syllodd y Prif Weinidog ar yr ysgrifbin o'i flaen, ysgrifbin Jim Griffiths, ysgrifbin addas i arwyddo dogfen mor dyngedfennol. Ond ai arwyddo oedd y peth cywir i wneud?

Wedi cyfan, gallasai'r ddogfen hon ddedfrydu Cymru i flynyddoedd o dlodi, degawdau efallai. Pwy fyddai'n talu am y pensiynau a'r ysbytai heb son am lagŵn Abertawe a'r lein Metro i Gwmsgwt? Efallai byddai'r Undeb Ewropeaidd yn fodlon rhoi help llaw, fe fyddai'n fodd codi dau fys i'r cymdogion ynysig drws nesaf, wedi'r cyfan.

A pha ddewis arall oedd ganddo ond arwyddo? Roedd San Steffan wedi ei baentio mewn i gornel ac onid oedd ef wedi addo 'sefyll cornel Cymru'?

Roedd y slogan yn un da hefyd, er bod ambell i un yn y North yn ei chael hi'n anodd ei deall ac un neu ddau o blismyn iaith wedi codi eu trwynau. Roedd pobl Cymru wedi deall y slogan, meddyliodd i'w hun. Dyna'r rheswm yr oedd yn eistedd wrth ei ddesg yn hwyr y nos ac ysgrifbin Jim Griffiths yn ei law.

Roedd hi'n fater o hunan barch, hunan barch y Prif Weinidog a hunan barch Cymru. Pa fath o ddyn fyddai'n derbyn setliad cyfansoddiadol wedi oedd wedi ei orfodi ar Gymru gan aelodau seneddol Lloegr? Pa fath o wlad, pa fath o wladweinydd, fyddai'n derbyn system gyfansoddiadol oedd wedi ei gwrthwynebu gan ei Chynulliad a mwyafrif ei haelodau seneddol?

Nid Cymru. Nid y Prif Weinidog hwn.

Canodd y ffon symudol a suddodd calon y Prif Weinidog o weld yr enw ar y sgrin. Aelod Seneddol o Gymru, aelod o gabined yr wrthblaid, neb llai. Oedd rhaid iddo wrando ar y bregeth ddagreuol ynghylch Keir Hardie, Aneurin Bevan, rhyfel cartref Sbaen ac undod y dosbarth gwaith rhyngwladol am y degfed, efallai'r ugeinfed tro?

Nac oedd. Diffoddodd y ffon a gafael yn dynn ar yr ysgrifbin. Roedd hi'n bryd sefyll cornel Cymru.

Syllodd ar y ddogfen a gwelodd y geiriau bras ar ei brig yn syllu yn ôl ato. Datganiad Annibyniaeth Cymru. Unilateral Declaration of Independence.

Syllodd ar y cloc a chodi o'i gadair. Efallai bod hi'n well gadael pethau tan y bore.