Datgelu prototeip car o Gymru wedi'i bweru gan hydrogen
- Cyhoeddwyd
Mae prototeip ar gyfer car sydd wedi'i bweru gan hydrogen, gafodd ei wneud yng Nghymru, wedi cael ei ddatgelu.
Cafodd y Rasa ei ddatblygu yn Llandrindod ym Mhowys gan Riversimple Movement Ltd.
Mae'r prototeip yn gallu mynd o 0-60mya mewn 10 eiliad, a'r unig allyriad yw dŵr.
Bydd y car, a dderbyniodd grant o £2m gan Llywodraeth Cymru yn 2015, yn cael cyfnod prawf o 12 mis, gyda'r bwriad o ryddhau'r model terfynol yn 2018.
Dywedodd Hugo Spowers, sylfaenydd Riversimple: "Mae'r car yn syml, ysgafn a hwyl ym mhob agwedd."
Pe bai'r cyfnod prawf yn llwyddiannus, dywedodd y cwmni mai'r cam nesaf fyddai sefydlu ffatri, fyddai'n cyflogi hyd at 220 o weithwyr.
Mae'r cwmni yn gobeithio y gall y Rasa fod y car mwyaf effeithlon yn y byd.
Yn pwyso dim ond 580kg - tua hanner car arferol - gall deithio hyd at 300 milltir ar 1.5 cilogram o hydrogen.