Cwmni dur yn galw am fargen well ar ynni

  • Cyhoeddwyd
Dur

Mae cwmni gwaith dur yng Nghasnewydd wedi dweud y gallen nhw ehangu i ailgylchu sgrap os y byddan nhw'n cael bargen well ar ynni.

Mi ddechreuodd Liberty Steel ail gynhyrchu ym mis Hydref y llynedd ac erbyn hyn maen nhw'n cyflogi 170 o bobl. Ond maen nhw'n dweud y gallen nhw greu 1000 o swyddi newydd.

Yn ddiweddar mae'r cwmni wedi prynu darnau o gwmni dur Caparo ac maen nhw mewn trafodaethau i brynu dau safle Tata yn yr Alban lle mae 300 o swyddi mewn peryg.

Mae arbenigwyr yn dweud bod cynlluniau'r cwmni yn ddiddorol ond heriol o achos y costau ynni a gormodedd dur yn y byd.

1000 o swyddi

Mae'r diwydiant dur mewn sefyllfa anodd gyda chostau ynni uchel a mewnforio rhad o China a Rwsia. Ym Mhort Talbot daeth y cyhoeddiad ym mis Ionawr y bydd 750 o weithwyr yn colli eu gwaith yn ffatri Tata.

Yn ôl Sanjeev Gupta o'r cwmni Liberty mi fyddai ail ddechrau'r ffwrnais yng Nghasnewydd yn "100% hyfwy" ac yn creu 1000 o swyddi.

Byddai hynny'n golygu y byddai'r cwmni yn defnyddio sgrap a'i ailgylchu i greu cynnyrch o ddur allai gael ei ddefnyddio mewn diwydiannau eraill. Ond mae angen llawer o ynni i wneud y broses honno.

Mae Celsa yng Nghaerdydd yn defnyddio proses tebyg ac yn defnyddio 40% o drydan y ddinas.

Mae Llywodraeth Prydain yn ddiweddar wedi cyflwyno cymorth ariannol i gwmnïau fel Celsa a Tata er mwyn helpu gyda chostau ynni.

Mae teulu Gupta wedi buddsoddi mewn prosiectau arfaethedig a ddaw yn sgil creu'r lagŵn llanw mewn ymgais i leihau costau yn yr hir dymor.

Cynllun 'diddorol'

Mae Sanjeev Gupta yn dweud bod hyn rhan hanfodol o gynlluniau'r cwmni ar gyfer dyfodol y diwydiant dur.

"Dydyn ni ddim jest eisiau gwneud dur, rydyn ni eisiau gwneud cynnyrch wedi ei wneud allan o ddur, ychwanegu gwerth iddyn nhw a chwblhau'r newid..."

Mae'r athro Peter Wells, o ysgol fusnes Prifysgol Caerdydd yn dweud bod cynlluniau'r cwmni yn rhai diddorol.

"Yn yr hir dymor mae'r galw am ddur yn reit ansicr. Mae'n debygol y bydd gormodedd yn y sector yn parhau bydd yn effeithio prisiau dur yn fyd eang. Ond does yna ddim sicrwydd y bydd yna gyflenwad o ansawdd boddhaol."

Ychwanegodd nad oedd cynhyrchu dur efallai y ffordd orau o ddefnyddio ynni adnewyddadwy ym Mhrydain yn y dyfodol.