C'est la vie

  • Cyhoeddwyd

Weithiau, mae'n talu i beidio meddwl gormod.

Ers blwyddyn a mwy mae Andrew RT Davies wedi bod yn gwbl gyson wrth sôn am Ewrop. Bob tro yr oedd y pwnc yn codi, yr un oedd yr ateb. Roedd arweinydd yn Ceidwadwyr yn teimlo "wrth reddf" y dylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ond yn dymuno gweld ffrwyth ail-negodi David Cameron cyn penderfynu'n derfynol pa ochr i gefnogi yn y refferendwm.

Eto i gyd, er gwaetha'r 'greddf' yna, prin oedd yr Aelodau Cynulliad na newyddiadurwyr oedd yn credu y byddai Andrew yn faswr ar ddiwedd y dydd. Roedd ei gyhoeddiad ddoe ei fod am bleidleisio dros adael yr undeb yn dipyn o sioc felly ac mae un o fy nghydweithwyr un Big Mac yn dlotach o'r herwydd.

Y wers amlwg yw peidiwch â meddwl gormod - a pheidiwch fentro byrgyr ar broffwydo teithiau meddyliol Andrew RT Davies!

Fel mae'n digwydd rwy'n llwyr dderbyn esboniad Andrew ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar ei liwt ei hun ac ar sail y dadleuon. Dyw hynny ddim yn golygu nad oes i'w benderfyniad oblygiadau strategol i'r Ceidwadwyr a'r pleidiau eraill yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad.

Beth fydd yn denu sylw'r wasg a'r cyfryngau wrth i David Cameron ac Andrew gyd-ymgyrchu? Oes angen gofyn? Pan ddaw Boris Johnson neu George Osborne i Gymru pa bwnc fydd ar wefusau pawb. For ever in Ewrop, gwd boi.

Ond nid dyna yw'r unig broblem i'r blaid. Pan gyhoeddir ei maniffesto Cynulliad mae'n saff o gynnwys addewidion sy'n ddibynnol ar ddefnyddio arian o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Mae Metro de Cymru a gwelliannau i'r A55 yn enghreifftiau amlwg o addewidion o'r fath.

Gall maswr fel Andrew ddadlau, wrth gwrs, y byddai'r arian yn dod o goffrau'r Deyrnas Unedig pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wedi'r cyfan mae Prydain yn cyfrannu mwy i'r Undeb nac mae'n derbyn yn ôl. Yn wir dyna oedd dadl Andrew mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma.

Y broblem yw does dim sicrwydd y byddai San Steffan yn dewis gwario'r arian felly a gallwch fentro'ch crys na fydd George Osborne yn addo gwneud hynny cyn y bleidlais ym mis Mehefin.

Byddwn mewn sefyllfa ryfedd felly lle bydd arweinydd sy'n dymuno gweld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud addewidion sy'n ddibynnol ar haelioni'r undeb hwnnw.