Byrgyrs a thwf siopa ar-lein

  • Cyhoeddwyd
burger

Gyda chyhoeddiad cwmni bwyd cyflym 'Burger King' eu bod nhw'n dechrau gwasanaeth cludo bwyd i gartrefi beth mae cam diweddara'r cwmni yn ei ddweud am ddyfodol siopa?

Ydyn ni mewn peryg o golli'r cysylltiad personol gyda'r gwerthwr wrth siopa?

Mae archebu nwyddau dros y we a siopa o archfarchnadoedd ar-lein lle mae'r bwyd yn dod at ddrws y tŷ yn brofiad cyfarwydd iawn erbyn hyn.

Mae Carwyn Jones, darlithydd mewn Astudiaethau Busnes a Manwerthu yng Ngholeg Menai, yn dweud fod yn rhaid i gwmnïau feddwl am ffyrdd o ddatblygu ond mae perygl o golli'r elfen bersonol.

"Dydi darparu gwasanaeth dosbarthu nwyddau bwyd i'r cartref - neu 'home delivery' - ddim yn syniad newydd yn y farchnad manwerthu bwyd, gyda dosbarthu pizza i'r cartref wedi bod yn wasanaeth poblogaidd iawn ers blynyddoedd.

"Ond ers nifer o flynyddoedd rŵan mae yna duedd clir o newid yn y ffordd 'da ni'n siopa ac o ganlyniad rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr mewn prynu nwyddau ar-lein.

"Mae'r datblygiad mwyaf wedi bod yn y cynnydd o smartphones a'r defnydd o apps ar y go.

"Mae busnesau mawr yn ei wneud yn flaenoriaeth i arloesi gyda thechnoleg ond, heb os, yr anfantais fwyaf yw colli'r elfen bersonol o ddelio gyda'r cwmni a'i staff."

Mae'r cam gan y cwmni yn un beiddgar iawn meddai Carwyn ac yn ymgais i ennill cyfran o'r farchnad drwy gynnig ffordd newydd o brynu a chyflenwi.

stryd
Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd diwetha' mae llawer o brif strydoedd trefi Cymru wedi gweld siopa'n cau

"Yr her fawr i'r cwmni gyda hyn fydd i wneud yn siŵr nad yw'r fenter yn niweidio eu margin elw oherwydd y cynnydd yn y gost ym mhob uned a werthir.

"Rhaid i fanwerthwyr edrych yn gyson i arloesi a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddenu cwsmeriaid a chynyddu trosiant, tydi sefyll yn llonydd ddim yn opsiwn."

Mae Mari Eluned yn ddylunydd gemwaith sy'n gwerthu ei chynnyrch ar-lein o'i chartref ym Mallwyd, ger Dinas Mawddwy ac yn cytuno fod y we yn hanfodol i fusnesau.

"Mae gwerthu ar-lein yn hanfodol i fy musnes i gan ei fod o'n fy ngalluogi i werthu ar draws Prydain a thu hwnt."

"Gan mod i'n gweithio o adre', y cwbl sydd rhaid i mi wneud ydi piciad â'r archebion i'r swyddfa bost leol.

"Dwi'n brysur iawn efo archebion dros y we ar y funud sy'n golygu nad oes gen i'r amser i greu gwaith i ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod a'r Sioe Frenhinol."

Ond mae angen perthynas gyda'r cwsmer meddai Mari: "Anfantais hyn ydi 'mod i'n colli'r cyswllt uniongyrchol efo'r cwsmeriaid. Gall prynu dros y we fod braidd yn amhersonol, felly dwi'n trio cyfathrebu'n effeithiol a sefydlu perthynas gyda'r cwsmer a sicrhau gwasanaeth proffesiynol."

Mari
Disgrifiad o’r llun,

Mari Eluned yn ei gweithdy ym Mallwyd

Hyblygrwydd ar-lein

Dywed Mari fod gwerthu ar y we yn ei siwtio ar y funud am fod ganddo deulu ifanc ac mae medru bod yn hyblyg o ran oriau gwaith yn bwysig iddi.

"Yn y dyfodol agos, y bwriad ydi ceisio mynd â stondin i ddigwyddiadau eto neu i agor galeri," meddai. "Efallai bod posib mynd yn rhy ddibynnol ar siopa ar y we - yn sicr dwi'n euog o hyn, ond mae'n llawer mwy cyfleus na llusgo tri o blant ifanc o gwmpas y siopa!

"Er cyfleustra'r we, yn y pen draw, does dim byd gwell gan gwsmer na chael mynd i mewn i siop a chael gweld a chyffwrdd y cynnyrch cyn penderfynu prynu rhywbeth."

Dywedodd Matt Williams, sy'n gynghorydd polisi gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach: "Mae'n wir i ddweud bod nifer cynyddol o fusnesau bach wedi ymateb i'r galw gan y cyhoedd i ddewis cynnal eu busnes ar-lein, ond mae llawer yn dal i fod â safleoedd ar y stryd fawr.

"Mae hyn am fod llawer o fusnesau bach yn cystadlu o ran y gwasanaeth y gallant ei gynnig i'r cwsmer, eu gwybodaeth eang am y cynnyrch maent yn ei werthu ac anghenion y cwsmer.

"Mae hyn yn rhoi gwasanaeth arbennig i'r cwsmer na ellwch ei gael drwy glicio botwm neu gasglu o'r swyddfa bost."