Y Gŵr o Gae'r Meddyg
- Cyhoeddwyd
Dydw i ddim am hawlio bod y blog bach hwn yn arbennig o ddylanwadol ond rhai oriau ar ôl i mi gyhoeddi post bach ynghylch y problemau y mae deddfau'r Tuduriaid yn dal i achosi i'n setliad cyfansoddiadol fe benderfynodd Carwyn Jones dynnu dŵr o'r un ffynnon. Sôn am awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr oedd y Prif Weinidog a dyma oedd ganddo i ddweud.
I think it's worth emphasising that there are some who say, 'Well, the jurisdiction has served us well for centuries.' It did, but we have to remember that when the jurisdiction was put in place in 1536... it replaced three different legal systems in what we now call Wales—Marcher law, English law and Welsh law. The jurisdiction was not England and Wales, it was England. It was set up on the basis that there would be not just no Welsh Parliament ever again, but no Wales or Welsh language ever again. The Welsh language was to be—and I use the words in the legislation—'utterly extirpated', as it was described in Tudor times. But, the reality is, we saw the passing—I use the Sunday Closing (Wales) Act 1881, the Welsh Courts Act 1942, the Welsh Language Act 1967—of some Welsh legislation, now we are seeing significant Welsh legislation being passed—24 Acts in the course of this Assembly. That shows the current arrangements of the jurisdiction no longer work, because it was set up on the basis that there was one Parliament and one set of laws; that's no longer the case.
Nawr gadewch i ni balu ychydig yn ddyfnach. Mae dadl Carwyn ynghylch yr awdurdodaeth yn ddigon rhesymol ar y wyneb ond dyw e ddim fel pe bai e'n sylweddoli taw symptom yw cwestiwn yr awdurdodaeth. Mae'r broblem yn ddyfnach na hynny - y broblem yw bodolaeth Teyrnas Lloegr - y "diafol yn siôl" fel y'i gelwais i hi'r dydd o'r blaen.
Fe gafodd y cymalau o'r 'Deddfau Uno', fel maen nhw'n cael eu hadnabod, oedd yn ymwneud â'r Gymraeg eu dileu o'r llyfrau statud gan Ddeddf Iaith 1993. Mae'r cymalau sy'n datgan bod Cymry yn rhan o Deyrnas Lloegr ar y llaw arall o hyd yn gyfraith gwlad. Mae Cymru felly yn rhan o'r Deyrnas Unedig trwy rinwedd y ffaith ei bod hi'n rhan o Deyrnas Lloegr yn hytrach na yn ei rhinwedd ei hun. Dyw hi ddim felly'n aelod cydradd o'r undeb - mae problemau fel yr awdurdodaeth yn deillio o'r ffaith sylfaenol hynny.
Dyna'r broblem sydd angen ei datrys. Oes 'na feddyg yn y tŷ?