Micro:bit i baratoi 'arloeswyr digidol y dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
micro:bit
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrifadur bychan yw'r micro:bit, y mae'n bosib ei raglennu ar gyfer amryw o bwrpasau

Mae disgyblion ysgol yng Nghymru ymysg miliwn o blant sy'n derbyn cyfrifiaduron bach fel rhan o gynllun y BBC i annog pobl ifanc i fod yn greadigol gyda thechnoleg.

Mae'r BBC micro:bit yn gyfrifiadur maint poced y mae modd i ddisgyblion ei godio.

Gall y micro:bit gael ei raglennu ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau, gan gynnwys creu gemau, creu watshis neu declyn ffitrwydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, mai'r bwriad oedd galluogi i'r "genhedlaeth hon sefydlu eu hunain fel rhaglenwyr ac arloeswyr digidol y dyfodol".

'Datblygu sgiliau'

Bydd pob disgybl blwyddyn saith yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â disgyblion blwyddyn wyth a disgyblion S1 yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, yn derbyn y teclynnau fel rhan o fenter Make It Digital y BBC.

Gall disgyblion raglennu'r cyfrifiaduron drwy olygyddion cod ar y we neu drwy ap ffon symudol.

Mae'r cynllun yn adeiladu ar brosiect BBC Micro, gyflwynodd gyfrifiaduron i genhedlaeth o bobl yn y 1980au.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib creu watsh syml gyda'r teclyn

Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd y dechnoleg yn paratoi pobl ifanc at swyddi yn y diwydiannau creadigol

Mae rhai plant wedi cael profi'r dechnoleg yn barod, ac yn ôl un athro, mae'r teclyn yn apelio at blant "yn syth".

Dywedodd Allen Heard, Pennaeth TGCh Ysgol Bryn Elian: "Drwy roi'r micro:bit yn nwylo plant a'u dechrau ar y broses codio, rydych chi'n datblygu eu sgiliau rhesymu a meddwl yn gyfrifiadurol.

"Mae'n eu helpu i ddod yn ddysgwyr cryfach oherwydd maen nhw'n fwy tebygol o ddatrys problemau ar eu liwt eu hunain yn hytrach na gofyn i rywun am yr ateb."

'Hawdd a hwyl'

Disgrifiad o’r llun,

Katie, Ethan, Nansi, Mathew, Laura a William a'u hathro Allen Heard yn Ysgol Bryn Elian

Mae'r disgyblion wedi eu plesio hefyd. Dywedodd Katie bod y teclyn yn "hynod o fach ond gallwch wneud cymaint ag o", ac ychwanegodd Nansi fod y micro:bit "mor hawdd ac yn hwyl".

Ychwanegodd Keith Allen, Pennaeth TG Ysgol Gyfun Radyr: "Maen nhw wedi bod yn eu defnyddio ddydd a nos i geisio creu'r llwyddiant mawr nesaf, o declynnau arddangos geiriau, watshis, cwmpasau a gemau llawn.

"Alla' i ddweud o brofiad bod y micro:bit yn sicr yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn rhaglennu a'u bod yn mwynhau hynny'n fawr, ac mae hynny'n beth da!"

'Paratoi'r genhedlaeth nesaf'

Disgyblion fydd yn cadw'r micro:bit ar ôl ei dderbyn, er mwyn eu caniatáu i'w ddefnyddio'r tu allan i oriau ysgol.

Bydd y micro:bit yna ar gael i'r cyhoedd, gyda'r arian sy'n dod o'i werthu yn cael ei ddefnyddio i ymestyn y prosiect.

Dywedodd Tony Hall bod gan y micro:bit "y potensial i anfarwoli ei hun yn hanes arloesi Prydeinig" a'i fod yn "falch dros ben ein bod wedi perswadio cynifer o bobl i'w gefnogi a'i wireddu".

Ychwanegodd Iain Tweedale, Pennaeth Ar-lein a Dysgu BBC Cymru: "Mae BBC Cymru yn edrych ymlaen yn arw at weithio ar y prosiect micro:bit gydag ysgolion ar draws Cymru.

"Mae'r BBC yn awyddus i ysbrydoli pobl ifanc i fod yn greadigol gyda thechnoleg ddigidol a bydd y micro:bit yn helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf ar gyfer manteisio ar filoedd o swyddi newydd yn y diwydiannau creadigol ledled Cymru."