Y Cymro a'r lluniau o Paul a Linda

  • Cyhoeddwyd
paul linda

Mae ffotograffydd o'r gogledd wedi cyhoeddi lluniau o Syr Paul McCartney a'i ddiweddar wraig, Linda, nad oedd wedi eu gweld o'r blaen.

Daeth Clive Arrowsmith - a gafodd ei eni ym Mancot a'i fagu yn yr Wyddgrug yn Sir y Fflint- o hyd i'r lluniau gwreiddiol yn ei lofft yn Llundain.

Fe gawson nhw eu tynnu ar ddiwedd sesiwn dynnu lluniau ar gyfer albwm Speed of Sound y grŵp Wings ym 1976, ac yn ystod sesiwn ar gyfer albwm unigol Paul McCartney, Off The Ground yn 1995.

Mae'r lluniau wedi eu cyhoeddi yng nghylchgrawn y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, The Journal.

Dywedodd Mr Arrowsmith fod dod o hyd i'r lluniau wedi dod a llawer o atgofion hapus yn ôl iddo.

"Maen nhw'n dal yr eiliadau pwysig hynny pan ddaeth popeth at ei gilydd," meddai

"Y sbort ro'n ni'n ei gael, ac agosatrwydd Paul a Linda, naturioldeb y lluniau yw'r allwedd i'w llwyddiant."

Daeth Mr Arrowsmith i gysylltiad â'r Beatles drwy'r cyn ddrymiwr Stuart Sutcliffe tra'n astudio yn Queensferry. Mae e hefyd wedi tynnu lluniau o Mick Jagger, Judy Dench, Art Garfunkel, Def Leppard, y Tywysog Charles, Michael Caine a'r Dalai Lama.