Port Talbot yn yr haul

  • Cyhoeddwyd

Dyw nunlle'n dwll i'w drigolion ond fe fyddai dieithryn yn crafu ei ben yn hir cyn darganfod rhywbeth da i ddweud am dref Whyalla yn Ne Awstralia. Treuliais gwpwl o oriau yno rhyw dro ac, o fod yn gwbwl onest roedd hynny cwpwl o oriau'n ormod.

Mae Whyalla'n un o'r trefi hynny sy'n bodoli yn unswydd ar gyfer un diwydiant. Yn achos Whyalla dur yw'r diwydiant hwnnw ac o'r 22,000 o drigolion mae rhyw bedair mil yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol yng ngwaith Arrium. Mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn ddibynnol ar y gwaith mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

Pe bai'r gwaith yn cau mae'n debyg mai dyna fyddai diwedd y dref hefyd. Does 'na ddim gwaith arall yn yr ardal ac mae'r ddinas fawr agosaf, Adelaide, yn ddau gant a hanner o filltiroedd i ffwrdd.

Does dim rhyfedd felly bod llywodraethau'r dalaith a'r wlad wedi gwneud popeth posib i ddiogelu dyfodol y gwaith. Dyma ddisgrifiad yr Australian Financial Review o'u hymdrechion.

"Arrium's South Australian workforce has been pruned and pushed routinely over the past decade by management efforts to defend the un-defendable. They have done all that could be done. As have governments state and federal. Infrastructure contracts have been delivered and tariff protection beefed up and, recently at least, relatively vigorously enforced."

Er cymaint yr ymdrechion, rhywbryd yn ystod y dyddiau nesaf disgwylir i'r cwmni ddisgyn i ddwylo'r derbynwyr. Mae 'na rywfaint o obaith y bydd hi'n bosib achub rhai o weithfeydd llai'r cwmni, y fersiynau Awstralaidd o Drostre, Shotton a Llanwern, ond mae Port Talbot y wlad yn yr un twll a'n Port Talbot ni.

Mae argyfwng Whyalla yn brawf o natur fydol argyfwng y diwydiant dur ond nid dyna'r rheswm i mi godi'r stori yn fan hyn. Pwynt arall sy gen i.

Yn ystod y pythefnos diwethaf mae'r ddwy ochor yn y ddadl Ewropeaidd wedi ceisio defnyddio problemau Port Talbot fel rhan o'u hymgyrchoedd. Ar y naill ochor ceir y rheiny sy'n dadlau mai dim ond bloc masnachu rhyngwladol sydd a'r nerth braich i amddiffyn diwydiannau strategol. Ar y llall mae'r rheiny sy'n dadlau bod y busnes wedi ei dagu a'i fygu gan fiwrocratiaeth yr Undeb Ewropeaidd.

Mae 'na rym yn perthyn i'r ddwy ddadl ond y gwir plaen yw bod yr Undeb Ewropeaidd wedi methu achub Port Talbot a bod Awstralia 'annibynnol' wedi methu achub Whyalla.

Mewn byd sy'n dyrchafu masnach rydd mae 'na rai pethau sydd y tu hwnt i alluoedd gwladwriaethau a blociau masnachu fel ei gilydd.