Y Gyfnewidfa Lo Caerdydd i gael ei droi'n westy £40m
- Cyhoeddwyd

Bydd Cyfnewidfa Lo hanesyddol Caerdydd yn cael ei ailddatblygu fel rhan o gynllun gwerth £40m i'w droi'n westy moethus.
Wedi i'r datblygiad gael ei gwblhau, bydd yr adeilad hefyd yn croesawu priodasau a chynadleddau.
Dywedodd y datblygwyr eu bod yn disgwyl i'r ailddatblygiad greu 100 o swyddi a phrentisiaethau adeiladu, a 60 o swyddi eraill wedi i'r adeilad ailagor.
Yn ôl y datblygwyr Signature Living, mae disgwyl i'r ailddatblygiad gymryd 18 mis i'w gwblhau.

Dyluniad o sut y bydd y Gyfnewidfa Lo yn edrych ar ei newydd wedd
Mae'r Gyfnewidfa Lo yn cael ei ystyried fel un o adeiladau pwysicaf Caerdydd yn hanesyddol, a dyma ble gafodd y siec gyntaf gwerth £1m ei harwyddo.
Mae'r cytundeb yn dod a blynyddoedd o ansicrwydd am ddyfodol yr adeilad rhestredig Gradd II i ben, ar ôl nifer o ymdrechion i'w achub dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd un o sefydlwyr Signature Living, Lawrence Kenwright: "Mae'r Gyfnewidfa Lo yn adeilad bendigedig, arwyddocaol, a bydd ein cynllun ni i'w adnewyddu yn ei wneud yn rhywbeth y gall Caerdydd fod yn falch ohono unwaith eto.
"Rwy'n gwybod pa mor hanesyddol bwysig yw'r adeilad i'r holl wlad a dyna pam rydyn ni'n bwriadu cadw nodweddion gwreiddiol yr adeilad a'r arteffactau hanesyddol."