Cwmni Uber yn lansio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni tacsi ar-lein Uber yn lansio yng Nghaerdydd ddydd Gwener, mae BBC Cymru ar ddeall.
Nid yw cwmni Uber wedi cadarnhau ei fod yn cychwyn y gwasanaeth lle gall bobl alw tacsi drwy ap ar eu ffonau symudol ond fe ddwedodd llefarydd ar ran y cwmni: ''Dyna beth mae'r cyfryngau cymdeithasol yn eu dweud- a dy' ni ddim yn gwadu hyn.''
Rhoddodd Cyngor Dinas Caerdydd drwydded i'r cwmni fisoedd yn ôl ond does dim rheidrwydd ar y cwmni i ddweud wrth y cyngor pryd maen nhw'n cychwyn y gwasanaeth.
Mae cwmni Uber eisoes ar gael mewn 15 dinas a thref ym Mhrydain gan gynnwys Llundain, Glasgow a Newcastle, ond Caerdydd fydd y lle cyntaf yng Nghymru i'w gael.
Mae nifer o yrwyr tacsi'r ddinas yn anfodlon ac fe ddywedodd Steve Garelick, ysgrifennydd cangen gyrwyr proffesiynol y GMB: "Fe fydd defnyddwyr yn ei hoffi ond mi fydd yn drychinebus i yrwyr tacsi.''
''Mae'n ddigon anodd ar hyn o bryd ond fydd hyn yn gwneud e'n anoddach fyth i yrwyr ennill bywoliaeth,'' ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Uber: ''Mae pob gyrrwr sy'n defnyddio'r ap Uber ym Mhrydain wedi'u trwyddedu gan yr awdurdod lleol ar gyfer llogi preifat, gan gynnwys archwiliad manwl y gwasanaeth datgelu a gwahardd, ac mae ganddyn nhw yswiriant llawn masnachol.''