Gwersyll wedi ei osod i wrthwynebu glo brig ger Ffos-y-Fran
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o ymgyrchwyr amgylcheddol wedi codi gwersyll dros dro wrth ymyl safle glo brig mwyaf Prydain ym Merthyr Tudful.
Yn ôl y grŵp 'Reclaim the Power' mi fyddan nhw yn ceisio atal gwaith rhag digwydd yn safle Ffos-y-Fran ddydd Mawrth, ddau ddiwrnod cyn etholiadau y Cynulliad.
Mae protestwyr eisiau moratoriwm ar gloddio glo brig yng Nghymru. Dywed y cwmni sydd yn gyfrifol am y safle, Miller Agent, ei bod yn cyflogi 230 yn lleol ac yn cynnig trydan fforddiadwy.
Ond mae Ellen Gibson o 'Reclaim the Power' yn dweud bod y pwll glo wedi bod yn "llygru cartrefi trigolion lleol a'n planed am bron i ddegawd."
Mi gafodd cais Miller Agent i greu pwll glo brig, fyddai wedi bod yn 478 hectar, yn Nant Llesg yng Nghwm Rhymni ei wrthod gan gyngor Caerffili ym mis Awst 2015. Mae'r cwmni yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd Neil Brown rheolwr gyfarwyddwr Miller Argent De Cymru: "Ni'n sôn am ddiwydiant lleol, swyddi i Gymru. Dyw pobl ddim yn sylweddoli ein bod ni yn cefnogi'r diwydiant dur ac yn cefnogi trydan fforddiadwy am genhedlaeth."
Mae'r cwmni yn dweud ei bod eisiau "trafodaeth gytbwys" rhwng polisïau newid hinsawdd, sydd medden nhw yn bwysig, a thrydan fforddiadwy. Maen nhw hefyd yn dweud ei bod wedi buddsoddi £6m ar gyfer achosion da trwy ei nawdd cymunedol. Mi fyddan nhw'n newid y tir yn ôl i fod yn rhostir ar ôl gwneud y gwaith cloddio.
Ond mae'r rhai sydd yn protestio yn gweld y mater fel mwy na brwydr leol. Maen nhw'n ymbilio ar wleidyddion i ddod a glo brig fel diwydiant i ben ac eisiau i Gymru symud tuag at gynhyrchu pŵer adnewyddadwy.
Mae'r diwydiant adfywio yn ne Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2014 mi gafodd 2.5m tunnell o lo ei gynhyrchu mewn safleoedd glo brig
1m tunnell oedd y ffigwr yn 2007
Pum safle sydd yn cynhyrchu ar hyn o bryd gyda'r mwyafrif yn rhoi tanwydd i waith dur Tata ym Mhort Talbot a gorsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Dyw'r dyfodol fodd bynnag ddim yn glir gyda phrisiau glo yn mynd yn is a'r cyhoeddiad diweddar y bydd Aberddawan yn prynu mwy o lo o dramor wrth i'r orsaf leihau'r trydan mae'n gynhyrchu.
Safbwynt y pleidiau
Y Democratiaid Rhyddfrydol: cefnogi moratoriwm ar lo brig. Maen nhw eisiau gweld Cymru yn cael ei holl ynni o ffynhonnell adnewyddadwy erbyn 2025.
Plaid Cymru: gwrthwynebu unrhyw ddatblygiadau newydd i greu safleoedd glo brig. Maen nhw eisiau gweld Cymru yn cael ei holl ynni o ffynhonnell adnewyddadwy erbyn 2025.
Y Gwyrddion: gwrthwynebu datblygu glo brig. Maen nhw eisiau gweld Cymru yn cael ei holl ynni o ffynhonnell adnewyddadwy erbyn 2025.
UKIP: eisiau i gynghorau benderfynu a ddylai safleoedd glo brig gael eu hagor yn eu hardal a chadw mwy o'r budd economaidd os ydyn nhw yn caniatáu safle glo brig.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r blaid Lafur a'r blaid Geidwadol i wneud sylw.