Dur: Liberty yn cadarnhau cais i brynu gweithfeydd Tata

  • Cyhoeddwyd
Gwaith dur

Mae cwmni dur Liberty Steel wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cyflwyno llythyr o fwriad i brynu asedau cwmni dur Tata yn y DU.

Mae cwmni dur Liberty House, sy'n eiddo i Sanjeev Gupta, wedi cadarnhau wrth BBC Cymru eu bod wedi dod a grŵp o ymgynghorwyr a buddsoddwyr ynghyd.

"Y broses yw cyflwyno llythyr o fwriad dydd Mawrth, sydd i bob pwrpas yn cynnig prynu'r asedau," meddai llefarydd ar ran Liberty.

Mae Tata yn gwerthu eu holl safleoedd ym Mhrydain oherwydd eu colledion, ac maent wedi gofyn i ddarpar brynwyr wneud cynigion.

Un o'r buddsoddwyr posib yw Macquarie, banc o Awstralia sy'n cynghori Liberty ar y cynnig.

Pecyn cymorth

Liberty Steel

Yn ogystal â'r gwaith ym Mhort Talbot, mae Tata yn berchen ar weithfeydd yng Nghasnewydd, lle mae 1,300 yn gweithio, a Rotherham sy'n cyflogi 1,200. Mae gan Tata hefyd weithfeydd yn Shotton, Corby, a Teeside.

Mae Tata wedi dweud y byddant yn rhoi digon o amser i'r llywodraeth a phrynwyr posibl i drefnu pecyn achub, ond nad oeddynt am ymestyn yr amser yn ormodol er mwyn osgoi ansicrwydd i'w cwsmeriaid a'u gweithwyr.

Fis diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi eu bod yn barod i gymryd cyfran o 25% mewn unrhyw ymgais i achub safleoedd dur Tata Steel ym Mhrydain.

Wrth i Carwyn Jones, ymweld â safle Port Talbot ddydd Mawrth, dywedodd "na fydd yn rhoi'r gorau i frwydro dros swyddi dur".

Yn ôl Mr Jones, mae o blaid cynllun i reolwyr brynu'r safle ond byddai'n ystyried cefnogi cynigion eraill.

Diogelu swyddi

Y cynllun hwnnw sydd hefyd yn cael cefnogaeth Plaid Cymru fel yr opsiwn gorau o ran cadw gwaith dur Port Talbot yn cynhyrchu dur.

Yn ôl llefarydd y Blaid ar yr economi, Adam Price: "Rwy'n gobeithio y bydd yr holl bleidiau gwleidyddol yn cefnogi'r cais wrth i ni geisio brwydro am ddyfodol y diwydiant craidd yma, ac ymladd dros swyddi."

Cefnogi cais y rheolwyr yw safbwynt y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ôl eu harweinydd Kirsty Williams hwn yw'r opsiwn gorau ar gyfer y dyfodol: "Wrth gwrs mae angen sicrhau fod y gweithfeydd yn aros ar agor a bod swyddi yn cael eu diogelu, ac mae'r peth gorau fyddai i sicrhau fod y gwaith o gynhyrchu dur yn aros ar agor.

"Rwy'n poeni na dyna o bosib fyddai'n digwydd yn achos cais Liberty," meddai.

Dywedodd Stefan Ryszewski, llefarydd ar ran y Ceidwadwyr, nad ydynt yn ffafrio un cais yn fwy na'r llall: "Ni'n croesawu'r ffaith fod cais ffurfiol wedi ei wneud, ond rydym ni am weld y cais mwyaf positif neu'r cais gorau yn ennill er mwyn sicrhau ffyniant y diwydiant yn y dyfodol."

Yn ôl Kenneth Rees o UKIP, byddai'n dda o beth pe bai partneriaeth yn prynu'r safleoedd dur meddai: "Byddwn i yn hoffi pe bai mwy nag un cwmni neu grŵp yn gallu cydweithio i sicrhau'r pris i brynu, a bydd o hefyd yn sicrhau y bydd profiad y gweithwyr a phrofiad rheoli yno."

Roedd y prif bleidiau i gyd wedi rhoi eu safbwynt ar ddyfodol y diwydiant dur yn ystod dadl etholiadol fis diwetha'.

Dywedodd yr adran fusnes eu bod yn paratoi pecyn cymorth "gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd" i fod ar gael i ddarpar brynwyr.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi bwriad gan grŵp o reolwyr, dan yr enw Excalibur Steel UK, i brynu Tata.